Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/269

Gwirwyd y dudalen hon

YR YSTORM.

(GAN HWFA MON).

Y gerddoriaeth gan Joseph Parry, Ysw. (Pencerdd America), Mus. Bac. Cantab.
Professor of Music at the University College of Wales.

Daeth dydd! daeth dydd cynhauaf gwyn!
Mae'r haul yn chwerthin ar y bryn !
Dwyfoldeb santaidd wisg y nen!
Mae bwa'r enfys am ein pen!

Gorwedda'r defaid yn y twyn
I wrandaw cerdd y bugail mwyn;
Breuddwydia'r gwartheg dan y pren,
A'r borfa'n tyfu dros eu pen!

Mae'r adar mân yn gàn i gyd,
Yn pyncio'u dawn am rawn yr yd;
Mae natur fel nefolaidd fün
Yn hoffi siarad wrthi'i hun!

Ust! beth yw'r sibrwd lleddfol sy
I'w glywed yn yr awyr fry?
Ust! clyw! mae'n nesu oddidraw,
Gan ymwrdd yn y dwfn islaw!


Ysbrydion ystormydd
Sy'n deffraw drwy'r nefoedd!
Elfenau sy'n udo
Hyd eigion y moroedd;