tymhestloedd, a'rhaiadrau crychwyn sydd yn arddull Hwfa, ond yr oedd hyny mor naturiol iddo ef ag awel a heulwen i eraill. Credai fod barddoniaeth mewn geiriau, a chredai yn iawn; ond nid oedd hyny yn ei wneud yn ddibris o feddylddrychau. Y mae dynion yn gwahaniaethu mewn gwisgoedd—rhai mewn sidan a phorphor, eraill mewn nwyddau o waith cartref; ond ni feddyliai neb am luchio llaid at eu gilydd am eu bod yn anhebyg. Y mae cymaint o wahaniaeth yn y dull of feddwl, ag sydd yn y dull o'i osod allan, a phob un yn naturiol iddo ei hun. Ond arddull rhwysgfawr oedd yr eiddo Hwfa, ac ymhyfrydai mewn geiriau mawrion, weithiau, o'i greadigaeth ei hun, i dynu sylw at yr hyn fyddai ganddo mewn llaw ar y pryd. Gwnai hyny yn aml wrth areithio, yn fwy er dyddori ei gynulleidfa na dim arall. Cofus genyf pan yn hogyn, ei wrando yn darlithio, gyda llawer o nerth a hwyl. Nid oes genyf adgof am ddim o'r araeth, oddieithr ychydig eiriau nodweddiadol hollol o Hwfa; a thebyg y buasai y rhai hyny hefyd yn anghof pe'n eiriau symlach. Yr oedd yn desgrifio helfa yn rhywle, ac yn son am "y milgi yn milgieiddio, a'r ysgyfarnog yn ysgyfarnogi," nes peri i ddyn deimlo fod clust yn ymglusteiddio" yn swn yr helfa. Hawdd fuasai cael geiriau symlach i osod allan egni yr ymgyrch, ond y mae yn amheus a fuasent mor effeithiol i gyrhaedd yr amcan oedd mewn golwg ar y pryd. Ei hofflinell oedd. y synfawr a'r cynhyrfus. Clywai storm mewn gwlithyn, a therfysg mewn dagrau. Tynai fellt o wybreni digwmwl, rhoddai liw of frawychdod ar brydferthwch, a gwnai ochenaid yn ddaeargryn. Yr ysgythrog, a r ofnadwy oedd yn naturiol iddo, a dyna'i ddull o ganu. O'm rhan fy hun, gwell genyf lyfnder diymdrech, a thlysni didrwst; ond nid yw hyny yn rheswm y dylai pawb fod yr un fath. Y mae amrywiaeth arddull yn tori llawer ar unffurfiaeth y byd llenyddol, ac i bob arddull gareg adsain mewn rhyw galon neu gilydd.