Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/272

Gwirwyd y dudalen hon

adnabyddir ffurfiau gwynebpryd drwy ddarluniau, felly yr adnabyddir llinellau cymeriad drwy fywgraffiadau. Y mae genym luaws o fywgraffiadau enwogion, wedi eu hysgrifenu yn ein hiaith; ac y mae llawer o honynt wedi eu hysgrifenu mor dda, fel yr ydym wrth eu darllen yn canfod eu gwrthddrychau fel yn ail fyw ger ein bron. At y nifer luosog sydd genym eisoes, hoffem i'r bywgraffiad hwn, i'r diweddar Nicander, gael lle yn eu mysg. Fel y cydweithia pob llinell a dynir gan yr arlunydd i wneud arlun cywir, felly yr hoffem ninau i bob llinell yn y bywgraffiad hwn gydweithio i roddi dysgrifiad teg o Nicander. Os llwyddwn i wneud hyn, efallai y symbylir ambell fachgen tlawd i geisio efelychu ei ragoriaethau; ac os felly, gellir dysgwyl gweled llu o lenorion dysgedig yn cyfodi eto yn Nghymru. Efallai y gofyna ambell ddyeithrddyn, wrth glywed enw Nicander yn cael ei grybwyll o bryd i bryd:—

Abl Awdwr o b'le ydoedd,
Pa wladwr, Gymrodwr oedd?

EI WLAD.

Dyweda hen ddiareb, mai "Yn mhob gwlad y megir glew." Ond nid yw y ddiareb hon yn awgrymu nad oes llawer glew wedi ei fagu mewn tref, a dinas; ond awgryma yn gryf mai mewn gwlad agored, yn ngolwg y mynyddoedd, yn sŵn brefiadau y defaid, ac yn murmur yr afonydd, y mae y rhif luosocaf o'r cewri wedi eu magu. Y mae Cantref o'r enw Eifionydd, yn swydd Gaerynarfon, yr hon sydd yn cynwys rhan o Eryri, ac yn ymestyn hyd at làn mór Ceredigion. Tua dechreu y ganrif hon, yr oedd rhanau helaeth o Eifionydd yn rhosdir gwyllt, ac yn fawnogdir dyfrllyd:—

"Ys byrfrwyn, llafrwyn, yn llu,
Neu gyrs oedd yn gorseddu;
Pabwyr gleis,—pob oerweig wlydd,—
Hesg lwyni, a siglenydd."