Ond, erbyn heddyw, y mae y rhosydd oerion wedi eu troi yn faesydd ffrwythlawn, a'r mawnogydd tomenllyd wedi eu dwyn yn erddi blodeuog; ac y mae llawer o'r gwastadeddau diffrwyth wedi eu gwisgo à choedwigoedd cysgodfawr. Diau fod Eifionydd yn awr yn un o'r broydd mwyaf hudol yn swydd Gaerynarfon; ac y mae plwyf Llangybi yn un o'r manau mwyaf swynol yn Eifionydd. Y mae swyn yn mynwent y plwyf hwn, canys yma y bu Eben Fardd yn rhodio rhwng y beddau, gan fyfyrio ei gerddi gwyryfol, yn adeg ei fachgendod; ac yma y mae beddrod y bardd godidog Dewi Wyn o Eifion, a lluaws o enwogion eraill allasem eu henwi. Prydferthir plwyf Llangybi, â hen balasau tegy Glasfryniaid, ac a phreswylfeydd enwog lluaws o'r henafiaid pendefigaidd. Hynodir y plwyf hwn à dwy o gadeiriau henafol, sef Cadair Cybi, a Chadair Elwa; ac efallai mai nid anmhriodol fyddai ychwanegu dwy gadair eraill atynt, sef Cadair Eben, a Chadair Nicander.
Tua chanol y plwyf y mae Carn Bentyrch, yn ymddyrchafu fel arglwyddes i arolygu yr holl amgylchoedd. Wrth ei godre, tardda Ffynon Cybi; dyfroedd yr hon a ystyrir yn dra rhinweddol; ac at hon y cyfeiria Dafydd Ddu Eryri yn y llinellau canlynol:—
"Ambell ddyn, gwaelddyn, a gyrch,
I bant, goris Moel Bentyrch;
Mewn gobaith mai hen Gybi
Glodfawr sydd yn llwyddaw'r lli."
Yn y plwyf hwn y mae y Capel Helyg, lle yr ymgynullai yr Annibynwyr, tua'r flwyddyn 1650; ac yma y mae beddrod y bardd tlws Emrys, o Borthmadog. Tua y gogledd ddwyreiniol i'r plwyf, saif pentref bychan Bryn Engan, lle dechreuodd Methodistiaeth wreiddio mor foreu a dechreuad y symudiad Methodistaidd yn Ngwynedd. Nid yn mhell o'r fan hon y mae