oeddynt Sioned Hughes, a Morris Williams o Bentyrch Uchaf. Ymddengys nad oedd un duedd at farddoniaeth yn nheulu Pentyrch Uchaf, ond yr oeddynt hwythau, fel teulu Coedcaebach, o duedd pur grefyddol; ac ystyrid hwy yn bobl dawel, gymydogol, a thra difrycheulyd. Wrth ystyried y pethau hyn, nid yw yn rhyfedd i feddwl Nicander gael ei ogwyddo at farddoniaeth, a chrefydd, oblegid cafodd ei addysgu o'r bru yn y naill fel y llall. Yr ydoedd tad Nicander yn gwasanaethu fel gwas fferm yn y Betws Fawr, gyda Robert ap Gwilym Ddu, yn y flwyddyn y priododd; ac yr oedd Sarah, mam Nicander, yn gwasanaethu fel morwyn fferm y flwyddyn hòno yn y Gaerwen, gyda Dewi Wyn o Eifion—dwy fferm heb fod yn nebpell oddiwrth eu gilydd. Mae dywediad ar lafar gwlad i Morris, tad Nicander, fyned i dalu ymweliad cyfeillachol à Sarah i'r Gaerwen un noson pan yr oedd yr holl deulu wedi myned i huno; a dywedir iddo luchio ceryg i'r ffenestr nes oedd pob man yn diaspedain, ac i Dewi Wyn, wrth glywed y twrw, neidio o'i wely i'r ffenestr, a gwaeddi dros y ty—
"Sarah! mae'r ty'n myn'd yn siwrwd!"
Boreu dranoeth, wedi myned adref, dywedodd Morris yr hanes wrth ei feistr, Robert ap Gwilym Ddu; a dywedodd y Bardd Du wrth Morris—Os clywi di Dewi yn gwaeddi fel yna eto, gwaedda dithau fel hyn dros bob man,—
Os wyt fyw erglyw o dy glwyd.
Yn ystod y flwyddyn hòno, priododd Morris a Sarah, ac aethant i fyw i'r Coedcaebach; ac yn Awst, y flwyddyn 1809, ganwyd Nicander. Bu iddo ddau frawd a dwy chwaer; a dywedir iddynt hwythau dyfu i fyny yn anrhydedd i'w gwlad.
Yn fuan wedi geni Nicander, symudodd ei rieni i fwthyn bychan o'r enw y Coety; a "Morris y Coety" y byddai y bobl