Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/277

Gwirwyd y dudalen hon

y bardd o Gefnymeusydd—yn dweyd mai "Morris bach y llifiwr" y byddai pobl yr ardal hòno yn galw Nicander; a dywedai mai llifiwr hoew a chyflym ydoedd. Cyfansoddodd un o hen feirdd yr ardal yr englyn hwn iddo,—

"Ni chafwyd bachgen amgenach,—na llaw
I drin llif yn hoewach;
Nid oes un llifiwr siwrach
Yn y byd na Morris bach."

Parhaodd Nicander i drin y llif a'r fwyell nes ydoedd tua phedairarbymtheg oed. Yn ystod y cyfnod yma, ymddengys iddo fod yn gweithio gyda'i feistr mewn gwahanol fanau, ac yn mhlith manau eraill, bu yn gweithio yn Nolymelynllyn, yn sir Feirionydd. Tra y bu yn aros yma, cymerodd Mr. R. Roberts, y Ddol, ato yn fawr, a gwnaeth ei oreu i'w galonogi i fyned yn mlaen mewn dysg a barddoniaeth. Yr oedd Mr. Roberts yn meddu chwaeth gref at farddoniaeth; ac yr oedd yn gyfaill mawr a'r beirdd, yn enwedig ag Ieuan Glan Geirionydd, yr hwn oedd yn preswylio y pryd hwnw yn Nghaerlleon. Llwyddodd Mr. Roberts i gael gan Ieuan i roddi ei ddylanwad dros y bachgen Morris, ac i'w gael i'r ysgol ramadegol i Gaerlleon. Yn y flwyddyn 1828, wele byrth yr athrofa yn Nghaerlleon-ar-Ddyfrdwy yn ymagor o led y pen i dderbyn "Morris bach y llifiwr" i mewn i fwynhau ei holl freintiau addysgol. Wele yntau yn awr yn troi ei gefn ar Eifionydd, ac yn ffarwelio am byth a'r llif a'r fwyell. Cododd ei droed o waelod y pwll llif, brasgamodd tua Chaerlleon, ac eisteddodd yn nghanol teml addysg!

EI DDYRCHAFIAD I RYDYCHAIN.

Wedi treulio tua dwy flynedd i efrydu yn Nghaer, a hyny gyda diwydrwydd a llwyddiant anarferol, cafodd ei ddyrchafu yn aelod o Goleg yr Iesu yn Rhydychain yn 1830. Yr oedd