Ap Ithel yn Rhydychain gydag ef, ond dywedai Nicander na byddai fawr o gymdeithas rhyngddynt a'u gilydd; ac nid oedd hyny yn ddim syndod; canys yr oedd ansawdd meddwl y ddau yn dra gwahanol i'w gilydd. Yr oedd meddwl Nicander yn fywiog a gwresog, a meddwl Ap Ithel yn araf ac oer; tafod Nicander yn ffraeth a phert, a thafod Ap Ithel yn drwm ac afrwydd; ond yr oedd y ddau yn enwog yn eu ffyrdd eu hunain. Ar ol i Nicander fod yn Rhydychain am bedair blynedd, graddiwyd ef yn A.C., ac urddwyd ef i waith y weinidogaeth. Yr oedd yn awr oddeutu pump ar hugain oed, ac yn ymddangos yn wr ieuanc hardd a gwisgi, ac yn orlawn o uchelgais. Er mwyn boddio cywreinrwydd y rhai hyny na chawsant y pleser o adnabod Nicander yn bersonol, rhoddwn yma eirlun o'i berson,—Dyn, byr, corff crwngryf, talcen uchel, llygaid mawrion, bochau cochion, trwyn uchel, genau crwn, gwefusau teneuon, edrychiad sydyn, parabl pert, llais ysgafnglir, chwerthiniad uchel, ac osgedd urddasol. Ond er mwyn i'r darllenydd allu cofio ei ddarlun yn well, rhoddwn yma ddysgrifiad y bardd o Nicander,—
Gwr byr, ac arab ei eiriau,—a gwrid.
Mewn graen ar ei fochau;
Llygaid mawrion, clirion, clau,
Cryno wyneb—crwn enau.