dynion. Yr oedd gan Risiard, gynt o Aberdaron, dalent, a gallu difesur i ddysgu gwahanol ieithoedd, ond hurtyn ydoedd. fel dyn wedi y cwbl. Ond yr oedd Nicander yn meddu talent a dysg, ac ar yr un pryd yn ddyn synwyrol, a hyfryd mewn cymdeithas. Er iddo gael ei ddyrchafu mewn urddau, ni welwyd ef erioed yn anghofio ei hun drwy ei falchder, gan ymddangos fel rhyfeddnod mewn starch, fel y gwelir rhai! Ni anghofiodd Nicander erioed y ffos y cloddiwyd, na'r graig y naddwyd ef o honi. Y mae yn berygl son wrth ambell un am y grefft a ddilynai cyn dydd ei ddyrchafiad, er fod arwyddion o'r grefft hòno i'w canfod yn eglur yn nhafliad ei law, yn nyddiad ei gorff, ac yn ngwead ei draed. Ond nid un o'r gwyr meinion ac ysgafnben hyn oedd Nicander; oblegid byddai ef wrth ei fodd yn wastad wrth son am y pwll llif, a helyntion gweithdy y saer. Yr oedd ef yn ddigon o ddyn i eistedd yn mwthyn y tlawd, yn gystal ag yn mhalas y boneddwr; ac i gyfeillachu gyda'r Ymneillduwr selog, yn gystal a'r Eglwyswr uchel. Nid anghofiodd efe ei rieni yn nydd. ei ddyrchafiad, ond talodd y pwyth iddynt yn eu henaint a'u penllwydni. Ni chollwyd golwg ar y dyn yn nysgleirder y meitr, na gwynder y wenwisg.
NICANDER FEL YSGOLHAIG.
Na thybied y darllenydd, am foment, ein bod yn meddwl am bwyso a Nicander fel ysgolhaig; oblegid ni chynysgaethwyd ni eto à digon o ddwlni a haerllugrwydd i geisio gwneud peth rhy fawr, a rhy uchel i ni. Ond y mae yn annichonadwy edrych dros fywyd Nicander heb sylwi ar ei ddysgeidiaeth. Yr oedd ei feddwl er yn fachgen yn sychedu am ddysgeidiaeth, fel y sycheda yr hydd am yr afonydd dyfroedd; ac wrth ystyried hyn, nid rhyfedd iddo fod yn