Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/283

Gwirwyd y dudalen hon

ysgolhaig mor wych. Cymer ambell un arno ei fod yn ysgolhaig, pan nad yw ond ymhonwr gwag, a rhodresgar. Clywsom gan wr cyfarwydd, y byddai Isaac Harris, gynt o Dalsarn, wrth bregethu weithiau, yn dweyd yr enwau canlynol fel y gwynt:-"Sweden, Denmark, Russia, Holland, Belgium, Cuba, Jamaica, a Porto Rico." Traethai y gwr doniol y frawddeg yna, er rhoddi ar ddeall i'r werin anwybodus ei fod yn wr dysgedig. Ond pe gofynasid iddo ddangos lle yr oedd Porto Rico ar y map, canfyddesid yn fuan na wyddai ddim mwy am Porto Rico, na wyddai Porto Rico am dano yntau. Ond nid un o'i fath ef ydoedd Nicander, canys yr oedd ef yn ysgolhaig profedig, ac wedi enill ei deitlau trwy arholiadau teg. Dywedwyd wrthym, oddiar awdurdod diamheuol, ei fod yn deall pump o ieithoedd, a'i fod yn adnabyddus â gwaith y prif-feirdd yn mhob un o honynt. Y mae y ffaith iddo gael ei ddewis, yn y flwyddyn 1854, i olygu argraffiad o Feibl Rhydychain yn Gymraeg, ac argraffiad y Beibl mawr, at wasanaeth y llanau, yn profi ei fod yn ysgolhaig o awdurdod uchel. Ac heblaw hyny, nis gellir darllen ei weithiau, heb ganfod ynddynt lawer o arwyddion dysg. Ond er dysgleiried ei ddysg, yr ydoedd yn hawdd canfod arno yn wastad, nad oedd ei ddysg wedi ei yru i ynfydu, fel y gyrir rhai yn y dyddiau hyn. Arferodd ef ei ddysg megys gwasanaethyddes i'w addurno, a'i gymhwyso i droi yn urddasol yn holl gylchoedd ei alwedigaeth, ac nid oedd diffyg olew ar ei ben.

NICANDER FEL BARDD.

Y mae genym ni gryn gred mewn brid. Os clywn fod rhyw un yn deilliaw o frid Tom Thumb, yr ydym yn dysgwyl gweled rhywbeth yn Domthymaidd ynddo; ac os clywn amryw un yn deilliaw o frid Cawr Anac, yr ydym yn dysgwyl gweled