Gwel pob darllenydd craff, fod arwyddion o allu mawr yn saernïaeth gynghaneddol y llinellau yna; ond er hyny, nid oes ynddynt un wreichionen o farddoniaeth. Y mae mwy o allu meddwl y celfyddydwr, nag o allu meddwl y bardd ynddynt. Fel yr oedd mwy o awydd y llenor cywrain, nag o'r bardd aruchel, yn ymddangos yn ngwaith Nicander yn moreu ei oes, felly yr ydoedd yn ymddangos yn ei waith trwy holl ystod ei fywyd. Dywedodd y diweddar Hugh Tegai wrthym, ei fod wedi darllen ei Awdl ar Genedl y Cymry, yn Eisteddfod Aberdar, a bod yr englyn canlynol yn engraifft deg o'r holl Awdl:—
"Holwch Nelson, a Boni,—a holwch.
Wellington uchelfri;
Ac Incerman am dani,
A chewch rês o'i hanes hi."
Mae yr englyn yna mor reolaidd, o ran cywreiniad ei gynghanedd, a "Meros, Hela, Morus William;" ond y mae yn llawn mor ddifarddoniaeth a'r "Meros, Hela, Morus William." Ac os yw yr englyn hwn yn engraifft deg o'r holl Awdl hòno, y mae yn hawdd gweled fod y cyfansoddiad yn graddio yn uwch fel dernyn celfyddydol, nag fel dernyn barddonol. Efallai mai y tri chyfansoddiad llawnaf o farddoniaeth o eiddo Nicander, yw ei Awdl ar y Greadigaeth, ei Bryddest ar Brenus, a'i Arwrgerdd i Moses. Y mae yn y cyfansoddiadau hyny rai darnau gwir odidog; ac y maent yn teilyngu lle yn mysg y gemranau mwyaf barddonol yn ein hiaith. Wrth edrych yn bwyllog ar holl gyfansoddiadau barddonol Nicander, y mae yn hawdd canfod, mai ei allu cywreiniol fel llenor, ac ysgolhaig, a'i cyfododd i'r safle anrhydeddus yr oedd ynddi, ac nid nerth, a chyfoethogrwydd ei athrylith fel bardd. Ac efallai mai fel llenor dysgedig, yn