oedd yn ddigon craff i weled rhagoriaeth y gwych, a gwrthuni y gwael, a meddai ddigon o graffder i'w deol yn deg oddiwrth eu gilydd. Yr oedd awch ar ei gyllell ysgythru yn wastad; a gorfu i lawer bardd a beirniad yn Nghymru deimlo ei llymder. Haerai rhai y byddai yn rhy lymdost yn ei nodiadau; a'i fod yn llymdostach at waith eraill nag ydoedd at ei waith ei hun. Ond os oedd hyn yn wir am dano, y mae yn wirionedd hefyd i'w feirniadaethau ef wneud mwy tuag at buro barddoniaeth Gymreig, na beirniadaethau neb arall yn ei oes. Diau na bu ei graffach fel beirniad barddonol yn eistedd ar fainc beirniadaeth yn Nghymru erioed; a phan syrthiodd ef i'r beddrod, collodd yr eisteddfodau feirniad oedd yn dwr ac yn darian i degwch a chyfiawnder. Llinell arbenig arall yn nghymeriad Caledfryn ydoedd eglurder. Ni bu neb erioed a lefarodd fwy dros i bawb draethu ei feddwl yn eglur na Caledfryn; ac nid oedd ganddo nemawr o ffydd yn y dynion. hyny sydd yn son yn wastad am y depth of thought; o herwydd credai ef nad oedd modd dysgu arall yn dda ond trwy ddwyn pob peth yn amlwg o flaen eu llygaid. Yr oedd yn gallu traethu ei feddwl bob amser yn oleu a thryloew; ac y mae holl ysgrifeniadau, mewn rhyddiaeth a barddoniaeth, yn profi hyn. Gwr ydoedd ef yn hoffi rhodio wrth liw dydd, ac nid wrth liw nos. Yr ydoedd sefydlogrwydd hefyd yn elfen gref yn ei nodweddiad. Yr ydoedd er pan yn ieuanc yn Ymneillduwr egwyddorol a thrwyadl; a safodd yn ddigryn dros ei egwyddorion trwy ei holl oes: ïe, ymladdodd frwydrau poethion dros ei gredo; ac ambell frwydr hyd at waed. Yr oedd mor ddiysgog a'r graig dros Ymneillduaeth; ac efe a dyngodd lawer gwaith i'w niwed ei hun, ac ni newidiai. Arbenigrwydd arall a ymddangosai yn amlwg ynddo trwy ei oes, oedd math o watwariaeth (sarcasm.) Yr oedd y duedd
Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/291
Gwirwyd y dudalen hon