mae yr holl swyddogion, o'r Cadben i lawr, yn ddynion o'r cymeriadau dysgleiriaf, ac yn deall eu gwaith yn drwyadl, fel y gall pob mordeithiwr fod yn berffaith dawel fod y Teutonic o dan ofal y dynion goreu, yr hyn sydd yn anrhydedd i gwmpeini y White Star.
Wrth edrych ar fawredd y Teutonic yn y Doc yn Liverpool, tybiem nas gallasai y tonau mwyaf siglo fawr arni. Ond cyn pen nemawr o ddyddiau wedi gadael Liverpool, gwelsom nad oedd y Teutonic, er ei maint, ond megys rhyw flewyn llesg ar frigau y tonau cynddeiriog yr Atlantic.
Ar y 19eg o fis Gorphenaf, 1893, daeth fy anwyl frodyr, y Parch. Henry Rees, Bryngwran, a'r Parch. Joseph Rowlands, Talysarn, gyda mi ar fwrdd y Teutonic. Yr oeddym yn cael ein cyfarwyddo yn ein holl symudiadau gan y gofalus a'r medrus Gymro Gwyllt, yr hwn oedd wedi darparu Berth i ni ein tri fod gyda'n gilydd, yr hyn oedd yn gysur mawr i ni, wrth wynebu ar y fath fordaith beryglus. Oddeutu haner awr wedi tri, ar y prydnawn byth—gofiadwy hwnw, gadawsom Liverpool, a'n calonau yn ymchwyddo gan bryder dwys.
Ac felly gadael ein cyfeillion—a wnaem,
Yn ymyl glan yr afon, —
Tra gwelem, adwaenem dros dòn
Ganoedd a'u cadachau gwynion.
Wrth brysuro o olwg Liverpool, yr oeddym yn dysgwyl y cawsem olwg ar Ynys Mon wrth ei phasio, ond cawsom ein siomi, o herwydd yr oedd niwl a chymylau yr hwyr wedi ymdaenu dros yr hen Ynys druan, fel na chawsom weled ond rhyw arliw gwan o honi. Fodd bynag, wedi ein siomi na chawsem olwg ar yr hen wlad, aethom i'n gwelyau, gan roddi ein hunain o dan ofal yr Hwn a roddodd y môr yn ei wely. Wedi rhoddi ein penau ar ein gobenyddiau, cadwyd ni yn effro