gan swn y ddwy sgriw oeddynt yn ysgriwio trwy y tonau wrth fyned yn mlaen. Ond o herwydd ein lludded a'n pryderon, siwyd ni i gysgu yn araf deg. Ond cyn ein bod ni braidd wedi dechreu chwyrnu, deffrowyd ni, ac erbyn i ni agor ein llygaid, yr oedd y Teutonic wedi cyrhaedd i borthladd hyfryd y Queenstown.[1]
Ar hyd y Werydd y rhedai—ac wrth
Queenstown yr angorai,—
Yno ei chroch luman chwai
Uwch yr awyr chwareuai.
O! hafan ogoneddus! Yr oedd yr olwg arno y bore hwn tu hwnt i allu neb i'w ddesgrifio. Yr oedd y môr yn llonydd, ac yn dysglaerio fel y grisial o dan belydrau yr haul. Yr oedd yr olwg ar y tyle gwyrddion o amgylch glanau y porthladd, ac ar y dref a'i phinaclau, wedi ein boddi gan syndod a swyn! Un o'r pethau cyntaf a glywsom yma oedd swn dynion yn taflu llonaid casgiau mawrion o weddillion ymborth i'r môr, a'r peth cyntaf a welsom wed'yn, oedd gweled heidiau o wlanod yn disgyn ar draws eu gilydd i'r môr, gan ymladd â'u gilydd am y briwsion. Ac wedi cael eu gwala a'u gweddill,
Yn llewyrchion haul llachar—gwyl wenai
Y gwlanod chwareugar;
Hyd y lli, heb ofni bâr,
Ymrodiai y môr adar.
Tra yr oeddym yn ymddifyru i edrych ar y golygfeydd hyn, deuai y llythyrau, a'r papyrau newydd i mewn yn sacheidiau, a phawb yn rhedeg am y cyntaf atynt. Yna daeth y Gwyddelod ymfudol i'r bwrdd, a'r olwg arnynt yn wyllt a chyffrous, ac yn edrych fel Gwyddelod! Erbyn hyn, yr oedd ar fwrdd y Teutonic oddeutu pymtheg cant o eneidiau, a phawb a'u gwynebau tua'r Gorllewinfyd.
Wedi aros am ryw deirawr—i'r llyw
Gael trefnu'r llwyth gwerthfawr;
O'r dirion hyfryd orawr,
Aem oll tua'r eigion mawr!
- ↑ Cobh Hrbwr Corc, Iwerddon