II.
O QUEENSTOWN I NEW YORK.
Os egyr y ffals eigion—ei enau,
Ni ddychryna nghalon,—
Rhodia Duw ar hyd y don
I ngwyliaw a'i angelion.
PAN adawsom borthladd hyfryd Queenstown, yr oedd y môr yn llyfn, a'r haul yn tywynu yn ddysglaer, ac yr oedd ymylau yr Ynys Werdd yn edrych yn hudolus iawn. Yr oedd y creigiau ysgythrog hyd lànau y môr, a'r bythyndai gwynion oedd i'w gweled hyd lethrau yr Ynys, yn gwneud yr olygfa yn dra dyddorol. Wedi i'r Teutonic frysio heibio i'r Cape Clear, troes ei phen mewn rhwysg—
"Tua'r Gorllewin araul,
Ty'r Hwyr, lle lletya'r Haul."
Pan oeddym yn graddol golli ein golwg ar y Werddon, ac yn dechreu tremio ar y dyfnder mawr, daeth geiriau y Salmydd i'n meddwl yn sydyn. "I ba le yr äf oddiwrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o'th wydd? Os dringaf i'r nefoedd, yno yr wyt ti; os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno. Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y mor; yno hefyd y'm tywysai dy law ac y'm daliai dy ddeheulaw." A phan oeddym yn synfyfyrio ar y pethau hyn, clywem swn canu emynau Sankey, yn dyfod o gymydogaeth y Steerage. Ac yn ein llawenydd, cyfeiriasom tua'r fangre. Ac erbyn myned yno, gwelem dorf daclus o Wyddelod, a'u llyfrau yn eu llaw, yn canu yn eu hwyliau goreu. Llanwyd ein