Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/299

Gwirwyd y dudalen hon

diasbedain! Gyda hyn, rhedasom i edrych dros ochr y llong, ar, eiliad gwelem heidiau o bysgod yn llamu o'r tonau, a phob un fel yn ymryson i neidio am yr uwchaf! Pan y gofynasom pa bysgod oeddynt, cawsom wybod mai hiliogaeth y Tunny (Thynnus Vulgaris) oeddynt, ac nid hiliogaeth y morfilod. Ymddengys fod heidiau mawrion o'r pysgod hyn yn heigio yn yr Atlantic Ocean, a bod y pysgodwyr yn gwneud elw mawr oddiwrthynt. Yn fuan wedi hyn, ymgryfhaodd y gwynt, a dechreuodd y môr gyfodi fel mynyddoedd mawrion.

Twrw heb osteg trybestod-hyd oror
Y dyfnderau isod;
Yn y dwfn, wrth fyn'd a d'od,
Ymrafaeliai morfilod!

Trwy wenyg, codi eu trwynau-yn hyf
Wnai morfeirch gan chwarau;
Chwythent byst, poerbyst o'u pau,
Yn wynias hyd y nenau!

Y llong gref oedd fel yn crefu-yn daer,
Am i'r don lonyddu!
Ac i'r awel dawelu,
Ar y daith drwy y mor du!

Dywedasom wrth un o'r morwyr oedd yn sefyll gerllaw i ni ei bod yn ystormus iawn. A dywedodd yntau nad oedd peth felly yn ddim ond rhyw stiff breeze. Parhaes y gwynt i gyfodi, hyd nes oeddym dros fanciau Newfoundland, ac yr oedd ugeiniau o'r môr-deithwyr yn sal iawn, a'r olwg arnynt yn druenus dros ben. Ond, drwy drugaredd, daliasom ni yn iach drwy y cwbl. Ac i brofi hyny, yr oeddym yn gallu dilyn ein prydiau yn rheolaidd, ac yn gallu eu mwynhau yn rhagorol. Aethom i orphwys yn gynar y noswaith hono, gan ddymuno i'r hin gyfnewid. Ac erbyn i ni godi boreu dranoeth, yr oed y mor wedi tawelu, a'r haul yn dechreu tywynu yn boeth. Pan