Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/32

Gwirwyd y dudalen hon

Pennod 1.

FEL CYMERIAD CYMREIG

GAN Y PARCH. RHYS J. HUWS.

PLENTYN y 'wlad,' y cysegr, a'r eisteddfod oedd Hwfa Môn, ac felly, bu dan rym y tri dylanwad cryfaf ar fywyd Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Magwyd ef yn Môn hudolus, pan yr oedd John Elias a Goronwy Owen yn teyrnasu ar uchelgais gwlad. Yr oedd hyawdledd pregethau y naill, a swyn cywyddau'r lall yn gyfaredd gwerin y pryd hynny; ac er swyn corn hela'r uchelwr, ac er cryfed y demtasiwn i drin "daear dirion" Môn, yr efengyl a'r gynghanedd oedd hud y bobl yn nhymor mebyd Hwfa. Cymry uniaith, gan mwyaf, oedd y Monwysion yr adeg yma, a bu dylanwad Elias a Goronwy yn fawr ar lafar y wlad. Trethodd y pregethwr holl adnoddau'r iaith i ddisgrifio nef ac uffern, purdeb a phechod; a gweuwyd llawer o ansoddeiriau lliwgar y prophwyd i mewn