gallwn yn hawdd gyfrif am ymchwydd rhai rhannau o'i "Owain Glyndwr." Ond os yw nos y wlad yn meithrin rhyw gyfriniaeth afiach mewn rhai meddyliau, y mae yn creu parchedigaeth ofnus ym mron y bardd, ac yn dyogelu ffresni'r byd iddo. I Hwfa yr oedd y tywyllwch yn dwyn Môn yn ei freichiau i'r tragwyddol bob nos, a'r wawr yn ei dwyn hi'n ol bob bore yn ieuanc fyth." Yn nyddiau ei febyd ef, dyeithriaid a phererinion oedd mân reolau'r Cyngor Dinesig ym mhentrefi tlysion Môn—wrth reddf ac nid wrth ddeddf y gweithredid yno gynt. Ychydig o feddwl cynllungar a chlós oedd yn eisieu, ac nid oedd yr hyn a elwir genym heddyw yn broblemau cymdeithas yn wybyddus y pryd hwnw, fel nad oedd nemor alw am wyddor nac athroniaeth i chwilio am "natur pethau." Yr unig rai oedd wedi dechreu "aethu" pethau yr adeg yma oedd y difinyddion a thra yr oeddynt hwy ym mynych son am dadolaeth, etholedigaeth, brawdoliaeth a llawer aeth arall, am dad, dewis, a brawd y soniai y werin, ac yn y dull hwn o feddwl y meithrinwyd deall Hwfa—yr hyn yw dweyd mai bardd oedd. Gwyddis fod y wlad yn enwog am ei charedigrwydd, ac fel rheol, rhai tirion, tyner, yw ei phobl; ond ni fagwyd mewn gwlad erioed garediccach Hwfa Mon. Yr oedd ei natur yn oludog o deimlad, a da y gwyr ei gyfeillion gynesed oedd ei groesaw, ac mor òd o glwyfus oedd ei siom—er mai gwaedu 'n gudd a wnai ef bob amser dan archoll. Wrth edrych dros gynnwysiad ei gyfrolau yr hyn a'n tery fwyaf yw y nifer fawr o englynion cyfarch a beddargraff a geir ynddynt. Tybiwn nad ysgrifennodd yr un bardd Cymreig gynnifer o honynt ag efe. Yr oedd ei ddeigryn yn crisialu 'n englyn ar lan bedd, a'i wên yn troi'n glec groesawol mewn neithior. Pwy a rydd i lawr sawl darn o ganu a daflodd Hwfa i ganol dagrau babanod aniddig? Do, canodd y gwladwr caredig hwn yn helaethach na nebi amgylchiadau mawr bywyd—geni a marw, priodi a chredu; a druan o'r galon nas cryn ar drothwyon y drysau trwy y rhai yr el bywyd i fyd arall a phrofiad newydd. Y mae golud o farddoniaeth yno. Yn hyn oll, plentyn y wlad oedd y bardd, ac er aros o hono
Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/34
Gwirwyd y dudalen hon