Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/41

Gwirwyd y dudalen hon

digon o gallineb i gydnabod gwerth y ddau. Rhed un oes ar ol y naill, ac oes arall ar ol y llall: ond wrth godi rhyw gymaint uwchlaw'r oes, rhoddir i'r ddau y cyfiawnder sydd ar law Amser i'w rannu. Tua chanol y ganrif o'r blaen, prin y mynnai'r meddwl Cymreig ddim o'r cyfriniol mewn barddoniaeth: er ys blynyddoedd bellach, prin y mynn ddim arall. Rhwng y ddau y mae tegwch barn yn trigo.

I'w oes y perthynai Hwfa Mon, ac ol ei oes arno. Yn ei awdlau, a'i farddoniaeth gaeth yn gyffredin, ni cheir fawr o'r cyfriniol; darlunia'n fanwl y golygfeydd sydd o'i flaen, gan orphen y darlun yn ofalus a gweddus: a dyna'i gryfder. Ychwanega air at air, a llinell at linell, bron yr un, oll, o ran ystyr, er mwyn bod yn sicr o wneud y darlun yn gyfan; a gedy'r darlun heb fawr o oleuni crebwyll arno. Sylwer, er engrhaifft, ar ei ddarlun o'r brain, yn awdl y Flwyddyn, ar ol i'r hauwr fwrw i'r gwys "eurliw ddyrneidiau irlawn".

A heidiau o frain hyd y fro,—eilwaith
A welir yn neidio;
A'u golwg craff yn gwylio—hyd ochr nant,
Heb rif adwaenant eu briwfwyd yno.


Disgyn heidiau,———A'u cysgodion
Fel cymylau,———Daenant weithion
O'r wybrenau,———Yn ordduon
Ar y braenar:———Ar y ddaear.


Hwy heidiant ar ddywedydd, yn gynnar,
O ganol y meusydd;
Crygiant goruwch y creigydd,—gan chwara u
Yn dduon gadau am nawdd hen goedydd.

A llaesant uwch y llysoedd—eu hesgyll,
Gan ddisgyn o'r nefoedd ;
Ac yno wrth y cannoedd—ymnythant,
Ac hwy adleisiant trwy y coed—lysoedd.


A llais y fran o'i llys fry,
Ar hyd wybren red obry;
Rhwng brigau, cangau y coed,
A brasgeinge tew y brysgoed: