Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/44

Gwirwyd y dudalen hon

Tyr ei nherth—tery yn ol
Wregysau creigiau oesol.
Deol o'u cwrr dyle certh
O'u gwadnau, trwy ergydnerth;
Trymha' i rwysg, trumau yr ôd
A luchia i niwl uchod.
***
Dinasoedd a dynn isod
O'u rhwysg yn uchder y rhod;
Eu cloddiau ceurog gleddir
Gan y tawch yn eigion tir;
Ac hefyd sawdd y cyfan
I feddau y tonnau tân !
0! ethryb olwg athrist
Ddyry y drom ddaear drist;
Lliwiau y bâr lle y bu
Ei chynnydd yn crechwenu;
Llynnau tân yn llenwi tir,
Moelydd ei thrumau welir:—
Gorddu fwg! arwydd y farn
Ar ysig ddaear wasarn!

Yma eto teimlwn fod gan y bardd awdurdod ar eiriau newydd a hen, o bell ac agos; deuant i'w lle wrth ei alwad; ac fel yr ymgodai caerau'r ddinas gynt wrth sain telyn Orpheus, felly yr ymgyfyd y llinellau cydnerth hyn, gair wrth air, gan lais cân yr awenydd. Ni fuasai un desgrifiad o hono fel bardd, yn y diriogaeth lle y cerddwn ar hyn o bryd, yn gyflawn heb enwi ei hoffder at liwiau disglair, fel at seiniau croch. Fflamia'r fellten, disgleiria'r gem, rhua'r daran a'r rhaiadr, yn fynychach yn ei waith ef nag yng ngwaith un bardd Cymreig arall. Y mae wrth ei fodd ynghanol rhwysg a thwrf Natur.

Mae anian yn fflam wenwawr,—hyd orwel
Y daran arswydfawr;
Tramwy drwy'r bydoedd tramawr,
Hyd y mellt mae y Duw mawr

***