Noa yn yr arch:
Noa eilwaith a'i anwylyd,—hynaws
Ymddiddanai'n hyfryd:—
A mawrion donnau moryd
Yn rhuo barn ar y byd!
Ynghanol rhwysg a grymusder awdly "Flwyddyn," ceir darlun tyner o'r fun gystuddiedig" yn troi allan yn wyneb haf, gan "leddfus yngan emynnau, mewn dagrau: daw i'r ardd dan chwenychu yn ddi—ddrwg
Ryw wan ail olwg ar y wen lili:
er llesged, iacheir ei chalon gan "aroglau almonau mêl":
Ei llaw wen trwy y llwynau—a estyn,
Yn ddystaw am flodau;
Yno o hyd gwna fwynhau
Eu llewyrch tlws a'u lliwiau.
Wrth edrych ar ei waith mewn cynghanedd gyda'i gilydd tueddir fi i osod awdlau y "Flwyddyn," y "Bardd," ac "Owain Gwynedd," a chywydd y "Gweddnewidiad," gyda detholiad o'i Englynion, fel ffrwyth goreu ei awen. Y mae yn awdl "Rhagluniaeth" rannau ardderchog: ond ymddengys i mi ei bod yn rhy gwmpasog ei chynllun, a darnau o honi yn rhy agos at ryddiaith—hanesion y Beibl ar gynghanedd. Y mae arwydd o lesgedd yn ei awdlau diweddaraf—megis "Noddfa," a'r "Frenhines Victoria "—sydd yn gwrthod lle iddynt gyda'i waith boreuach. Ond ceir llawer o'r hoywder gynt, a mwy na hynny o'i natur dda, a'i foneddigeiddrwydd, a'i ysmaldod hoffus, yn yr "awdlau byrion" arferai ysgrifennu y blynyddoedd diweddaf ar gyfer agoriad yr Eisteddfod genhedlaethol, o flwyddyn i flwyddyn. Ni cha Hwfa Môn mo'i haeddiant heb ei osod ynghanol ei oes, a heb ryw gymaint o'r natur agored a'r galon radlawn oedd yn rhan o'i gynhysgaeth. Y mae meithder ei gerddi, i oes frysiog fel hon, yn peri i lawer un golli amynedd a'i adael cyn cael y cwbl sydd ganddo. Perthynai i Gymru Fu": y mae mwy o ôl yr hen nag o naws y newydd yn ei awenwaith. Bron na thybiem mai efe yw'r olaf o feirdd