Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/47

Gwirwyd y dudalen hon

yr hen ddosparth: cododd Cymru newydd o 'i: amgylch tra yr heneiddiai, nad oedd ac nad yw yn ei ddeall ef na'i ddosparth yn iawn. Ond nid yw hynny'n golygu ei fod ef na hwythau heb eu lle arosol yn llenyddiaeth Cymru. Newidia'r hin eto, daw awel arall dros feddwl y genedl; ac yn ei dymor caiff pob bardd ei gynulleidfa a'i glod. Rhaid i feddwl cenedl, fel tir âr, gael newid had o dro i dro: rhaid iddi gael y darlunydd syml, rhaid iddi hefyd gael y gweledydd; rhaid iddi gael arweinydd i fyd agos Natur, rhaid iddi gael hefyd un i'w thywys i dir pell yr ysprydol.

O'r isel froydd, a'u glenydd gleinion,
Dros heulawg fryniau, a'u gwenau gwynion :
Heibio i'r cymylau, doau duon,
Dyrcha'i olwg hyd yr uchelion :
A thynna mewn iaith union—ddarluniau
O'r holl fynyddau, a'u gelltau gwylltion.

***

Ei awen gref a hefyd
I'r bythol anfarwol fyd,
A rhodia mhlith ysprydion
Ar hyd taleithiau yr Ion.

Awdl Y Bardd.

Anfynych y ceir bardd yn arglwydd y ddeufyd hyn: digon o deyrnas yw un o'r ddau fyd iddo. Ond doeth o beth fyddai i feirdd a beirniaid un byd, gofio hawl a haeddiant beirdd y byd arall. Nid ymrafaelio am flaenoriaeth, ond cydweithio, yw anrhydedd pennaf yr oll.