Pennod III.
BARDDONIAETH RYDD HWFA MON.
GAN Y PARCH. JOHN T. JOB, BETHESDA.
EITHRIAD prin iawn yw cael bardd yn ein plith sydd wedi rhagori i raddau cyfartal yn Nau Ddosbarth y Caeth a'r Rhydd— Fesurau. Yn wir, tybed a oes yr un? Pe gofynnid i'n cenedl ni, i ba un o'r ddau ddosbarth hyn y perthynai Hwfa Môn, ni cheid ond un ateb ganddi—Dosbarth y Caeth. Y gwir yw, mai'r Mesurau Caeth aeth â'i fryd ef; a dilys gennyf mai yn y Mesurau hynny y cyfansoddodd efe ei bethau goreu. Eto, belled ag y mae a fynno cywirdeb iaith (ffurfiau cywir geiriau &c), a broddegiaeth lân a chyfan &c a'r cwestiwn, credaf y cytunir y ceir mwy o wallau yn ei Farddoniaeth Gaeth nag yn ei Farddoniaeth Rydd. Hwyrach mai'r demtasiwn sydd y'nglŷn a'r gynghanedd, sydd i raddau.