Dyna i chwi Fagnel ddychrynllyd a sawyr uffern ar ei hanadl! Ystyriaf ei fod weithiau yn ei ddisgrifiadau yn eithafol, yn ffinio ar y grotesque, os nad yn wir yn bradychu diffyg barn a chwaeth dda. Cân gref iawn drwyddi yw "Dydd y Frwydr." Beth yn fwy barddonol na'r pennill hwn'?—
Y march rhyfelawg ydoedd
Yn chwareu ar y ddol;
A gwellt y maes yn codi
I edrych ar ei ol;
Trwy faes y frwydr carlamai
Nes colli'i waed bob dafn;
Ac ar y cledd y trengai
A tharan yn ei safn!
(I. tud. 230.)
Wele gân ardderchog o destynnol, i'r "Eryr":—
Wrth olau'r lloer ryw noson
Y crwydrais drwy y glyn;
Ac yn ei llewyrch canaid
Canfyddais eryr syn,
Yn sefyll ar y clogwyn
I yfed awyr iach,—
A'i esgyll wedi'u trochi
Yn ngwaed rhyw faban bach.
Ar ael y graig dragwyddol
Y cysgai'r eryr mawr;
A thrwy ei gwsg pendronol
Breuddwydiai am y wawr;
A chyda'r wawr ehedai
Drwy froydd yr awyr glaer,
A'i esgyll gwaedlyd olchai
Yn nhònau'r môr o aur!
Ar donau'r dydd chwareuni
Gan fynd o nen i nen,
A sér, uwch sèr, a chwarddent,
A synent uwch ei ben;
Ac yntau'n hyf a'u pasiai,
A mawredd ar ei ael;
Ac uwch, ac uwch esgynai
Nes dawnsiai yn yr haul!
(II. tud. 25—6.)
Mae'n amheus gennyf a ganwyd gwell cân na honyna i'r "Eryr," mewn unrhyw iaith. Mae'r darlun yn berffaith; pob gair yn ei le; pob cyffyrddiad yn effeithiol. Dyna'r Eryr! onidê? Mae'n ofnadwy o Eryraidd!