Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/57

Gwirwyd y dudalen hon

Pennod IV.

FEL EISTEDDFODWR.

GAN Y PARCH. R. GWYLFA ROBERTS, LLANELLY.

Y MAE cyssylltiad a'r Eisteddfod wedi bod yn fath o anhebgor i fardd Cymreig am ugeiniau o flynyddau bellach. Ynddi hi y gwnai ei orchestion: drwyddi hi y delai i sylw y wlad, a bod yn llwyddianus yn ei gornest hi oedd yn rhoddi safle genedlaethol iddo. Prin hwyrach y gellir dweyd fod y ardd heddyw yn meddwl llawn cymaint o honi ag y gwnai y tô y perthynai Hwfa Mon iddo; a diau nad oes yr un mwyach yn credu mor drylwyr yn ei defion a'i hanes a'i hurddau ag efe. Er hynny y mae yn deilwng o sylw fod beirdd goreu ein cenedl, ac eithrio Goronwy Owen, wedi bod yn Eisteddfodwyr pybyr or bedwaredd ganrif a'r ddeg hyd yn awr, os nad yn gynt na'r ganrif honno.

Nid oes angen mynd ymhellach na'r Eisteddfodau Dadeni i weled hyn. Yn Eisteddfod Gwern y Clepa yn 1328, Dafydd ap Gwilym