ynghanol y cwbl: ac o ran ei serchiadau yr oedd yn byw yn yr hen Eisteddfod o hyd ac yn meddwl am yr hen arwyr. Llwyddodd hefyd i ddod a'u hysbryd gydag ef i'r wyl bob blwyddyn a chadwodd eu neillduolion rhamantus hyd y diwedd. Amhosibl oedd ymddeol o rwymau yr hen hud a gildio i feirniadaeth ddiweddar ar yr Orsedd ac ar hanes yr Eisteddfod.
Pan oedd yn ddyn pur ieuanc daeth un o Eisteddfodau pwysicaf y ganrif ddiweddaf i ymyl ei gartref yn Mon—i'r Aberffraw yn 1849, ac yn honno yr urddwyd Rowland Williams ac y cydnabu Gorsedd yr hen sefydliad ef yn fardd o dan yr enw a wisgodd hyd ei fedd. Prin y mae eisiau manylu ar hanes Eisteddfod Aberffraw. Yr oedd rhai o lenorion goreu y genedl yn yr un cwmni ag ef yn cael eu hurddo, megis Gweirydd ap Rhys. Nid dyna gyssylltiad Hwfa i gyd a'r Eisteddfod honno. Yr oedd yn gystadleuydd ynddi hefyd, a dyfarnwyd ef yn ail oreu ar Englyn i Syr John Williams Bodelwyddan.
Cafodd yr un cysur ag Emrys yn yr wyl y dydd hwnw,—bod oddeutu'r blaen, eithr nid oedd ei golled ef lawn cymaint a'r eiddo Emrys. Dyna lle dechreuodd Hwfa Mon ei yrfa Eisteddfodol; ac ar ol yr yr urddo a'r cystadlu yn Aberffraw daliodd ei afael yn gyndyn yn nghymanfa llên a chân ei genedl hyd ei fedd. Mae pedair ochr i'w hanes fel Eisteddfodwr o hyn ymlaen:—ochr y cystadleuydd deheuig: ochr y beirniad adnabyddus: ochr y gorseddwr selog: ac i orffen, ochr yr Archdderwydd urddasolaf fu yn yr Orsedd erioed. Nis gwn yn iawn pa faint fyddaf yn groesi i diriogaeth neb o'm cydysgrifenwyr wrth gymeryd yr agweddau hyn i hanes Hwfa Mon; ond cydnebydd pawb eu bod yn dal perthynas anorfod ag ef fel Eisteddfodwr.
Afraid i mi fanylu dim arno fel bardd, na siarad am ei deilyngdod fel beirniad: yr oll a wnaf fydd cyfeirio yn fyr at y ffeithiau sydd ynglyn a'i yrfa lenyddol; gan ofidio yn fawr na byddai mwy o lawer wrth law genyf. Pigo ffaith yma ag acw wrth fyned heibio yw'r oll sydd yn bosibl i mi.