ei wrhydri ar Faes Bosworth. Rhaid llamu ymlaen yn awr at brif orchest Hwfa Mon, pan wnaeth waith mwyaf ei oes yn yr Eisteddfod. Gwaith barodd syndod cyffredinol, ac un nad yw'r genedl fel pe wedi llwyr faddeu iddo hyd heddyw am ei wneud—gorchfygu Eben Fardd. Yn Nghaernarfon y digwyddodd hyn yn 1862: a Chaledfryn a Nicander a Gwalchmai oedd y tri beirniad. Y Flwyddyn " oedd y testyn: a phwy bynag arall oedd yn treio am y gadair—ac yr oedd yno naw o awdlau i mewn—aeth y si allan fod yr hen wron o Glynnog a'i fryd ar y gadair honno: ac yn ddioed dwedodd pawb mai efe oedd i'w chael. Ar y llwyfan yr oedd llu o feirdd a llenorion goreu y genedl y pryd hwnw:—Ceiriog, Glasynys, Ioan Emlyn, Taliesin o Eifion, Gweirydd ap Rhys, Robin Wyn, Ioan Arfon, a'r tri beirniad, ac Eben Fardd ei hun.
Ond pan ddarllenodd Caledfryn y feirniadaeth gwelwyd fod gwaed newydd yn dod i mewn i gylch y cadeirfeirdd mawrion: a syfrdanwyd y dorf gynhyrfus pan welwyd dyn ieuanc llwydwedd a thal yn codi i hawlio'r gadair. Yr hen orchfygwr wedi cilio yn brudd o'r llwyfan, a Hwfa Mon yn cymeryd ei le. Gwnaethai Eben ei hun orchest ddigymar gyda'i "Ddinystr Jerusalem "pan yn ieuanc iawn; rhaid oedd rhoi ffordd i un ieuanc arall cyn marw. Llawen oedd. pawb am weled Hwfa yn cael ei gadeirio, fel bardd cymharol newydd; eithr croes drom yr un pryd oedd gweled y cadfridog hybarch yn cilio i Glynnog wedi ei archolli a'i ysbeilio o'i dalaith: ac fel y crybwyllasom nid o'i bodd y dygymydd y genedl eto a'r goncwest hon o eiddo Hwfa Mon.
Myned rhagddo gyda nerth herfeiddiol wnaeth o hyn ymlaen. Cyrchodd Gadair o Gastellnedd a Choron o Gaerfyrddin yn fuan wedyn: ac yr oedd y gamp ddiweddaf yn bwysig, oblegid mai am bryddest neu arwrgerdd y cafodd hi,—"Owain Glyndwr."
Ei ornest nesaf o bwys oedd yn Eisteddfod y Wyddgrug lle y cafodd y gadair Genedlaethol yr ail waith, am ei awdl ar "Garadog yn Rhufain": ac ymhen pum mlynedd wedyn o dan feirniadaeth Hiraethog, Islwyn ac Elis Wyn o Wyrfai enillodd y Gadair yn