Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/67

Gwirwyd y dudalen hon

sut y byddai yn torri gair ar hanner ei ddweyd, ac yn ei ollwng o'i enau yn ddarnau, ac ôl ei ddant neu ei wefus deneu ar bob darn.

Amhosibl son am Hwfa Mon fel Eisteddfodwr" heb gyfeirio at ei berthynas a'r Orsedd. Un peth a wnai cyn ei godi i'r Archdderwyddiaeth oedd cyfansoddi a darllen allan "Fer Awdl" ynglyn a phob Eisteddfod yn ddiweddar; nis gwyddom i sicrwydd pa bryd y dechreuodd ar y gwaith hwn: ond y mae pentwr o'r "awdlau byrion " hyn yn aros yn ei law ysgrif. Fel rheol parotoid dwy ganddo ar gyfer neu ynglyn ag Eisteddfod, yn enwedig ar ol ei wneyd yn Archdderwydd: y naill ar gyfer dydd cyhoeddi yr Eisteddfod (flwyddyn a diwrnod cyn ei chynal), a'r llall i'w hadrodd ar ddydd agor yr Eisteddfod. Weithiau darllenai ei Fer Awdl yn yr Orsedd ar ben y Maen: bryd arall ar lwyfan y neuadd lle y cynhelid yr wyl. Difyr yw edrych dros y copiau yn ei law ysgrif ef ei hun, a'i weld wedi tynu ei bin drwy ambell englyn a thoddaid yma a thraw. Dyma yr "Awdl ar Agoriad Eisteddfod Gyd—genedlaethol Chicago Medi 1893" yn dechreu fel hyn :—

Amerig! cartref mawredd;
Hon saif ar ei digryn sedd:
I'w mawredd yn nhwrf moryd,
A mawr barch ymwyra byd.


Bras randiroedd,
Byth ystadoedd,
Gloyw diroedd—
Gwaelod arian.

Llifo beunydd
Drwy ei meusydd,
Mae afonydd
Mwyaf anian.