Mae'r haul yn tywyllu!
Mae'r mellt yn goleuo!
Mae'r wybren yn crynu!
Mae'r dyfnder yn rhuo!
Mae mellten ar fellten!
Mae taran ar daran!
Mae Duw yn dirgrynu
Colofnau pedryfan!
Mae r ddaear ar drengu!
Mae'r nefoedd yn syrthio!
Arswyded y bydoedd!
MAE DUW'N MYNED HEIBIO!
Pa un ai ysfa ieithyddol ynte cyfeillgarwch syml ydoedd y rheswm nid ydwyf yn gwybod ond y mae'n ffaith i Robert Jones, yr hwn oedd golygydd Y Cymmrodor ar y pryd, gynyg cyfeithiad o'r geiriau hyn ochr yn ochr a'r gwreiddiol; treiodd y Saesneg, a chafwyd hi'n brin!
Mudiad arbenig arall y cysylltir enw Syr Hugh Owen ag ef ydyw yr un a arweiniodd i sefydliad Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn y mudiad hwn hefyd cymerodd Hwfa Môn ran flaenllaw. Bu'n dadleu hawliau yr Orsedd a'r Eisteddfod yn mhell cyn hyny, ac nid oes eisieu adgofio i neb ei fod yn awdurdod ar y pwnc pan y cafwyd ymdrafodaeth yn 1880 ar y cwestiwn o sefydlu Cymdeithas ganolog a chynrychioliadol i'r diben o ystyried a chario allan wahanol ddiwygiadau a awgrymid y pryd hyny, ynglyn a gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Pan, mewn canlyniad i'r drafodaeth a gymercdd le ar y mater yn Eisteddfod Caernarfon yn Awst 1880, a'r cyfarfod a gynaliwyd yn yr Amwythig y mis dilynol, y sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod yr oedd Hwfa Môn yn aelod o'r Cyaghor cyntefig, a pharhaodd yn aelod ffyddlawn o hono hyd ddydd ei farwolaeth. Y flwyddyn ar ol hyny, sef yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr Tydfil, y daeth ysgrifenydd y llinellau hyn gyntaf i gysylltiad swyddogol a'r hen sefydliad, ac wrth gwrs i gysylltiad agosach a Hwfa. Eisteddfod fythgofiadwy oedd Eisteddfod Merthyr yn 1881. Ni pherthynai ir Orsedd yn y