Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/80

Gwirwyd y dudalen hon

yn y cyfarfod hwnw, ar unig un wyf yn gofio, oedd Es. 4, 5, "A'r Arglwydd a grea ar bob trigfa o fynydd Sion, ac ar ei gymmanfaoedd, gwmmwl a mwg y dydd, a llewyrch tan fflamllyd y nos: canys ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn." Nid oes genyf yr adgof lleiaf am un testyn na phregeth arall a glywais yn y cyfarfod hwnw, ond yr wyf yn cofio Hwfa a'i destyn. Yr oedd y son am dano fel bardd wedi creu dysgwyliadau ynom ni fel bechgyn ieuainc—oedd y pryd hwnw yn ceisio rhigymu tipyn ein hunain; ac yr oedd yr olwg arno yn y pwlpud, ei safiad talgryf, ei wallt llaes yn gorwedd ar ei ysgwyddau llydain, a'i wyneb llyfn, diflew, yn tynu sylw pawb. Beth yw hwn? gofynem; mae hwn yn rhywun, nid yw yr un fath a neb a welsom o'r blaen. Pan ddechreuodd lefaru teimlem ei fod yn ddawn newydd, ar ei ben ei hun. Dechreua yn ddistaw ac araf, gan fesur ei gamrau fel yr elai yn mlaen, parablai yn glir a chroew, gan dori ei eiriau yn berffaith. Meddyliem na chlywsom erioed Gymraeg mor seingar a pherffaith, a'r fath gyfoeth diderfyn o eiriau, a phob gair yn disgyn yn naturiol i'w le. Fel yr elai yn mlaen mae yn cyflymu ei leferydd, yn amlhau ei eiriau; ac fel y mae yn gwresogi, a hen saint cynes Salem yn ei borthi, mae y chwys mawr yn dechreu diferu ar y Beibl, ac erbyn hyn mae ei eiriau a'r ansodd—eiriau yn llifo allan yn rhaffau hirion fel defaid o gorlan, gan wasgu eu gilydd yn eu brys i ddod allan. Toc bloeddiai, a dyrchafai ei lais cryf fel udgorn. Chwareuai yn hir ar y gair "creu"—"gair bychan, crwn, cryno, cryf a grea—a gr—e—a—a. Gwaith Duw yw creu— neb greu ond Duw." Clywais y bregeth hono rai gweithiau ar ol hyny, yr oedd yn un o'i ddewisolion, a chlywais ef dan arddeliad amlwg; ond i mi dim tebyg i'r tro cyntaf hwnw yn hen gapel anwyl Salem.

GYDAG EF YN WRECSAM.

Yn fuan ar ol hyn, ac mewn canlyniad i anogaeth garedig ganddo ef, aethum i a'm cyfaill y Parch. J. Arfon Davies, i Wrecsam i weithio, er mwyn gweled ychydig o'r byd, ac, fel y meddyliem, er mwyn ymgydnabyddu ychydig a'r iaith Saesneg. Hon oedd ein taith