gyntaf oddi cartref, ac yr oedd yn un i'w chofio. Cychwynasom yn blygeiniol iawn i'n taith ar foreu hafaidd yn Mehefin, gan feddwl cerdded bob cam. Croesasom afon Conwy mewn cwch yn agos i'r Abbey, yn Maenan. Dringasom i fyny, ochr sir Ddinbych i Langerniw, Meddyliem wrth basio am, "Uchel gwrnad cloch Llangerniw," yn nghan Jac Glan y Gors, i'r teulu a gollasant rifedi yr wythnos. Ond nid oedd amser i weled y gloch, cyfeiriasom yn mlaen i Lansanan, gan adael y Caedu, hen gartref y Salisbury a gyfieithodd y Testament Newydd, a'r Chwibren, hen gartref Hiraethog a Tango y ci, dros afon Aled, "Afon fach y bardd," gan olchi ein traed yn hono fel pererinion defosiynol; aethom hefyd heibio i'r Nant, lle bu Twm yn dechreu rhigymu cerddi, a'i fam yn "rhincian "canwyll frwynen iddo. Cyraeddasom Dinbych tua dau o'r gloch, yn flinedig iawn. Wedi cael tamaid o rywbeth i dori ein newyn, a gorphwys ychydig, penderfynasom fyned gyda'r trên oddi yno i Rhuthyn. Gadawsom Rhuthyn am Llanarmon. Erbyn cyraedd yno, a bron yn methu symud gan flinder, nid oedd llety i'w gael. O'r diwedd cawsom letty noswaith gan un Nuttal yn Rhydtalog, gwr caredig a lletygar, a gwr y daethom ein dau yn gydnabyddus iawn ag ef ar ol hyny. Yr oeddym erbyn hyn wedi teithio o ddeg i ddeuddeg ar hugain o filldiroedd, ac mor flinedig ag yr oedd yn hosibl i ni fod. Boreu dranoeth Cyfeiriasom dros y Bwlchgwyn, i lawr i'r Coedpoeth, trwy Adwy'r Clawdd, ac i Wrecsam erbyn tua dau o'r gloch. Wedi holi ychydig cawsom hyd i dy Mr. Williams, ac nid anghofiwn yn fuan y modd caredig a chynes y derbyniodd ef a Mrs. Williams ni i mewn. Yr oedd wedi rhoi siars i ni alw yn ei dy ef, ac y gwnai ei oreu drosom. Ac felly y gwnaeth. Wedi cael cwpanaid o de, a gorphwys ychydig, daeth gyda ni allan, a rhoddodd ni yn ngofal ein cyfaill calon byth wedi hyny, Mr. Joseph Edwards. Yr oedd eisoes wedi gofalu am waith i ni gyda y diweddar Mr. Charles Griffiths, King's Mill, un o hen ddisgyblion Williams o'r Wern, a'r hwn oedd ar y pryd yn teyrnasu ar bron holl felinau y wlad, a llu mawr o fasnachwyr blodiau. Yn y gyfeillach,
Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/81
Gwirwyd y dudalen hon