Aberystwyth, arosodd y llong wrth angor yn Bagillt, Swydd Fflint, nos Sadwrn, i ddadlwytho. Gwelsom wr bucheddol yn myned i'r capel oedd gerllaw ar foreu y dydd Sabboth. Dywedasom wrtho fod arnom awydd dod i'r cyfarfod, ein bod ar ein ffordd i'r America, a bod ein dillad goreu yn rhwym yn y cistiau yn y llong. "O, nid gwiw i chwi chwalu y rhai hyny," meddai, yr ydych yn eithaf da fel yr ydych chwi, deuwch gyda fi i'r bregeth." Aeth a ni yn mlaen i'r fainc at y pwlpud.
Ysgolfeistr o nodweddiad coeth a boneddigaidd oedd yn pregethu yn absenoldeb y gweinidog oedd yn glaf. Nefoedd fechan i ni oedd clywed y saint yn adrodd eu profiadau aeddfed yn y gyfeillach. Porth y nefoedd i mi oedd cael bod yn y fath le o dan yr amgylchiadau pan oedd y galon yn glaf wrth gefnu ar Gymru fendigedig, a gwagle ydoedd y dyfodol i gyd o'n blaenau.
Boreu dranoeth cyn myned i ffordd, arweiniodd ni i wyddfod Mr. Williams, gweinidog Annibynol eglwys Bagillt, oedd ar ei glaf wely, ond nid yn beryglus felly. Ni wyddem ar y pryd mai ei "nom de plume" ydoedd Hwfa Mon. Dyn ieuanc hardd, dymunol yr olwg arno ydoedd, oddeutu deg ar hugain oed, gallasem feddwl, gyda llygaid llawn a threiddgar, cyflym a bywiog, yn edrych arnom gyda dyddordeb a difrifoldeb. "Wel," meddai, "yr ydych chwi eich dau yn myned i America, mae'n debyg." Ydym Syr. Wel, cofiwch chwi eich dau fod yn blant da. A ydych yn addaw bod." Ydym, Syr. "O'r goreu."
Edrychai arnom ein dau gyda theimlad tad tyner, a dywedai drosodd a throsodd "Cofiwch fod yn blant da yn America." Cododd ei ddwylaw fel pe yn yr agwedd o'n bendithio a gollyngodd ni cefnfor ymaith gan ddymuno nawdd y nefoedd drosom ar y tymestlog ac yn yr Unol Dalaethau. Synasom yr amser hwnw ac yr ydym yn synu eto wrth weled dyn dyeithr o agwedd mor bur a defosiynol yn dymuno ein llwyddiant tymorol a thragwyddol, a hyny o eigion ei galon. Y mae yn agos i bum deg a phump o flynyddoedd er hyny, ond eto y mae cyngorion ac edrychiad difrifol Hwfa Mon