Brymbo, pan oedd Hwfa Mon yn weinidog yno, ac un sydd yn parhau yn aelod ffyddlon yno hyd heddyw, sef Mrs. Price, sut un oedd Hwfa fel ymwelwr a'i bobl. "Ni byddai byth," meddai, "yn galw yn ein tai ond pan y byddai achos am hyny. Yr oedd yn rhy brysur i dreulio ei amser i chwedleua yn ein tai. Ond os byddai afiechyd, neu rhyw drallod mewn teulu, ac iddo gael gwybod, byddai yno ar draws pobpeth, ac nid oedd neb y cerid ei weled yn fwy. Darllenai a gweddiai gyda'r claf, a chynghorai a diddanai y rhai mewn trallod; ac os gwelai fod eisiau, nid a'i allan o'r ty heb adael rhyw ddarn arian ar ei ol yno." "Yr oeddym ni," meddai Mrs. Price yn mhellach, "yn hoff iawn o Hwfa, a Mrs. Williams, a cholled fawr i ni oedd ei ymadawiad oddi yma. Ond nis gallem ei feio, gan ei fod yn cael gwell lle."
Gofynais i frawd craffus, ac un gafodd gyfle i adnabod Hwfa fel bugail, flynyddoedd yn ddiweddarach ar ei oes, beth oedd ei brofiad ef o hono. A dyma fel yr ysgrifena ei gyfaill, Mr. Richard Griffiths, Llangollen, am dano:—"Mae'n debyg pe baid yn holi aelodau a chorph yr eglwysi yn y gwahanol leoedd y bu yn gweinidogaethu, mae dyma fyddai y ddeddfryd, eu bod yn hoff iawn o Hwfa Mon fel gweinidog a boneddwr caredig ac fel cyfaill, ond mai lled anfynych y byddai yn talu ymweliad a hwynt fel teuluoedd; ond byddent oll yr un mor barod i gydnabod gwirionedd arall sef hwn, pan y byddai aelodau o'i gynulleidfa neu wrandawyr mewn afiechyd neu mewn galar neu gyfyngder——y foment y cai Hwfa Mon glywed am y cyfryw byddai yn talu ymweliad â hwy ar ei union; ac os y byddai yn cynnal moddion bychan wrth erchwyn eu gwelyau, byddai yn ddoeth iawn yn newisiad rhan o'r ysgrythyrau pwrpasol i'r amgylchiad ac yn hynod effeithol ar ei luniau yn cyflwyno y cyfryw i ofal eu tad nefol; ac os byddai yn credu y gallai fod teulu mewn angen ni byddai byth yn canu'n iach a'r cyfryw heb adael swllt neu hanner coron yn nghil dwrn y claf. Mae gweinidogion llai enwog na Hwfa Mon yn sicr o fod yn fwy blaenllaw nac y byddai ef yn talu ymweliadau rheolaidd o dy i dy