gyda'u cynulleidfaoedd, ond i ddyn oedd a chymaint o waith à Hwfa Mon yr oedd yn lled anhawdd iddo hebgor amser i dalu ymweliadau rheolaidd a'r cynulleidfaoedd, pan y byddant yn mwynhau iechyd.
Yr oedd hefyd yn gwneuthur gwasanaeth neullduol yn y cyfeillachau wythnosol a'r cyfarfodydd gweddio trwy wnenthur (1) yn y cyfeillachau sylwadau byr a phwrpasol ar sylwadau yr aelodau (2) ac yn y cyfarfodydd gweddio byddai ganddo sylw byr ar ol y weddi neu yr ychydig adnodau fyddant wedi cael ei dyweyd gan y rhai fyddai yn cymeryd rhan, a byddai yn hapus neillduol ar adegau yn gwrandaw adnodau ac yn holi y plant yn y cyfarfodydd hyn. Yr oedd yn hynod o hoff o blant ac yn gallu enill eu serch a'u sylw yn yr addoldy yn gystal ac yn y tai.
Clywais sylw am y diweddar Dr. Thomas Binney, un o gewri y pwlpud yn Llundain y ganrif ddiweddaf, digwyddodd glywed fod. y gynulleidfa yn cwyno a hyny yn lled chwerw mae hynod o anfynych y byddai yn talu ymweliad a hwy yn eu tai, ond ei fod yn pregethu yn anfarwol bob Sabboth, ac ar ddiwedd y gwasanaeth boreuol y sabboth canlynodd, crybwyllodd ei fod wedi clywed y gwyn ai fod am ddiwygio yn y peth hyny, ac meddai yr wyf am dalu ymweliad a chymaint o honoch fel aelodau a chynulleidfa o boreu llun hyd nos sadwrn. A'r Sabboth canlynol ar ol myned trwy y gwasanaeth o ddechreu yr oedfa—yr hyn a wnaeth yn hynod effeithiol—sylwodd ei fod wedi mwynhau ei hunan yn ddirfawr yn talu ei ymweliadau, ond yn anffodus nad oedd wedi cael un foment o amser i barotoi pregethau gogyfer a'r Sabboth ac felly meddai byddaf heddyw borau yn eich gollwng allan ar ol canu a gweddio. A chlywais na bu neb yn cwyno ar ol hyny nad oedd yn talu ymweliad a'i gynulleidfa. Dyma y wers y mae'r hanes yn ei awgrymu, os bydd gweinidog yn gwneuthur ei ddyledswyddau yn rymus yn y pwlpud, ac hefyd yn y gwahanol gyfarfodydd ynglyn ar achos, mae peth annoeth ydyw disgwyl i'r cyfryw dalu ymweliadau cyson a'r tai annedd, os na bydd afiechyd neu alar neu gyfyngderau yn cyfarfod teuluoedd."
Eithaf gwir a ddywed Mr. Griffiths, mae yn amhosibl i unrhyw