brofiad dori allan ar ei hol. Dadblygodd yn gyflym fel pregethwr yn y cyfnod byr y bu yma. Daeth yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Cymru, rhwng 1859 ac 1879, ac ni chafodd odid i weinidog oedfaon grymusach nag ef yn y blynyddoedd yma. Yr oedd mwy o'r athronydd na'r Bardd yn ei bregethau. Dilynwyd ef gan Hwfa un o brif Feirdd yr oes. Yr oedd tân Barddoniaeth yn tori allan pa bryd bynag y codai i siarad, gan gynhesu calon y gwrandawyr. Clywais ganddo yn ei bregethau rai o'r sylwadau mwyaf prydferth—farddonol glywais o bwlpud erioed. Yr oedd pob un o'r tri yn tynu tyrfaoedd ar eu hol. Ond doniau gwahanol iawn oedd gan y tri i wneud hyn. Dawn melus y cyntaf, ynghyd ai ddull dengar o drafod pobl oedd yn denu y dyrfa ar ei ol ef. Pregethau grymus, ac ysgoleigdod yr ail oedd yn tynu y bobl iw wrando. Meddyliau barddonol, cymraeg pur, aceniad clir, ac araethyddiaeth esmwyth y trydydd oedd yn sicrhau llond capel iw wrando bob tro yr esgynai i'r Areithfa. Yr oedd y tri yn talu sylw mawr i ieuengetid yr Eglwys, er nad yn yr un dull. Cymerai y cyntaf drafferth iw hastudio, ac yna iw cyfarwyddo i ymdaflyd i waith neillduol yn yr Eglwys y credai ef y gallent fod o fwyaf o wasanaeth ynddo. Cynhaliai yr ail ddosbarthiadau Beiblaidd a Gramadegol, ac fel hyn rhoes gychwyn da i nifer fawr o fechgyn fu ar ol hyny o wasanaeth i'r Eglwys fel Athrawon yn yr Ysgol Sul. Tra y casglai y trydydd nifer dda o honynt at eu gilydd i wrandaw ar ei Ddarlithoedd ar "Y Gwr Ieuanc"; "Coron Bywyd"; a "Barddoniaeth." Ac yn ychwanegol at hyn rhoes fywyd newydd yn Ngymdeithasau Llenyddol y Gymdogaeth fuont yn offerynol i ddwyn i'r amlwg lawer talent fuasai oni bai am hyny dan gudd. Yn ddiddadl i Hwfa a Tanymarian y perthyn y clod penaf am y llywyddiant mawr fu ar Eisteddfodau Cadeiriol Cymreigyddion Bethesda rhwyg 1864 ac 1870.
Mae taflen argraffedig tymor Darlithoedd Hwfa am 1865—6 yn awr ger fy mron, dyma hi:—