Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/98

Gwirwyd y dudalen hon

mraich am rhyw chwarter milldir heb ddweud gair, yna troes yn sydyn attaf," Dyne nhw Parry; ai e wir; fedr Hwfa ddim pregethu yn fyr!" Mi ail a thrydedd adroddodd hyn, gan ei fwynhau yn rhyfeddol. Cafodd lonydd byth wedyn.

Fel ymwelydd nid oedd yn enwog. Yr oedd yn anhawdd iddo fod yn ymwelydd cyson gan fel y deuai galwadau am dano mor fynych, ac yntau yn hawdd iw ddenu,-i Ddarlithio; i Gyfarfodydd Pregethu; i Eisteddfodau a Chyfarfodydd Llenyddol. Pan yr ymwelai nid hawdd oedd cael ei well mewn hyn o waith. Talai sylw i bob aelod o'r teulu o'r bach i'r mawr, a byddai ganddo air melus a chysurlawn i bob un o honynt, ac wedi gwneud rhyw sylw caredig o bob aelod o'r teulu, au hanog i fod yn ffyddlawn i foddion gras, a chilio oddiwrth bob drwg, ymadawai heb ymdroi, gan adael ar ei ol bersawr hyfryd. Ni roddai gyfle byth i neb chwedleua ag ef pan ar ymweliad. Gwelais rai yn ceisio ac yn methu. Wrth wely y claf yr oedd heb ei ail im tyb i. Yr oedd cydymdeimlad iw deimlo yn mharabliad pob gair ddywedai, a byddai rhai o'i eiriau ar adegau felly fel dyfroedd oerion i enaid sychedig; ac fel diliau mel i gysuro ambell i ddioddefydd. Gwelais ef fwy nag unwaith wrth erchwyn. gwely hen gristion pan yn marw ai ddagrau yn llifo, ai ocheneidau yn llanw yr ystafell. Yr oedd ganddo galon dyner neillduol.

Yn y Gyfeillach drachefn byddai wrth ei fodd yn nganol y brodyr a'r chwiorydd. Ni cheid ond gair byr ganddo ar gychwyn y Gyfeillach, ac yna ar ol gwrandaw adnodau y plant tynai allan yr hen frodyr a'r hen chwiorydd i adrodd eu profiadau, a chafwyd lliaws o Gyfeillachau bendigedig gyd ag ef. Yn fynych iawn ai trwy y llawr gan ddweyd gair wrth hwn a'r llall wrth basio er eu tynu allan, ac anfynych y methai ddwyn perl i'r golwg. Bu rai troion digrif gyd ag ef ar adegau felly. Yr wyf yn cofio un felly gyd a William Jones Tangarth. Hen wr byr ei ddawn oedd William Jones, a byr ei wybodaeth, hynod ymdrechgar gyd a'r byd, ond tra selog am ddod i bob moddion Crefyddol, er yn ymddangos tra yno yn cysgu ai bwysau ar ddrws y set. Un nos cyfeillach daeth Hwfa