Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/10

Gwirwyd y dudalen hon

gweinidog yr eglwys ar y pryd. Dechreuodd bregethu yn Cefnbychan o gylch pump-ar-hugain oed. Mae anrhydedd mawr wedi cael ei roddi ar yr eglwys hon trwy iddi fod yn gychwynfan i ddau o brif wroniaid ein henwad, sef y Parch. Edward Williams, Aberystwyth, ac arwr ein cofiant. Bu Mr Williams yn cadw ysgol a phregethu yn Cefnbychan am ysbaid o dair blynedd cyn iddo cael ei dderbyn i Athrofa y Fenni.

Yr hyn a gymerodd le pan oedd rhwng wyth a naw-ar-hugain oed :—Yr oedd gan yr athraw olwg fawr ar yr efrydwr o Gefnbychan fel duwinydd, ond nid cymmaint fel Sais, yr hon iaith oedd yn hollol annaturiol iddo. Dywedir fod yno gyd-fyfyriwr iddo o edrychiad lled dywysogaidd o ran corph, ond yr ystafell uwchben y llygaid yn lled wag. Fel y gwyr llawer, yr oedd y dyn oddiallan yn bur gyffredin gyda Mr. Williams. Un diwrnod, pan oedd y ddau yn cyd-ddweyd eu gwersu wrth yr athraw dysgedig, wedi iddo gael ei foddhau gan y naill a'i siomi yn y llall, dywedodd wrth y gwr prydferth yr olwg arno, "Take care of your body," ac wrth Mr. Williams, "Take care of your soul."

Yr oedd yr elfen fawr gymdeithasol—pa un a nodweddodd ei fywyd—yn gryf ynddo y pryd hwnw. Efe oedd pen "Ystorïwr" yr Athrofa; medrai ysgwyd eu peiriannau chwerthingar pryd yr ewyllysiai. Cof genyf ei glywed yn crybwyll am un tro y cafodd gyflawn fuddugoliaeth ar yr holl fyfyrwyr. Bob hwyr dydd Llun byddai ganddynt gynnadledd i adrodd ac adolygu eu helynt pregethwrol dros y