Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/11

Gwirwyd y dudalen hon

Sabbath. Un tro siaradodd y brodyr â'u gilydd am y rheswm eu bod yn cael hwyl gyda ystorïau "Ab" (o herwydd "Ab" yr oedd yn cael ei alw ganddynt). Canlyniad yr ymddyddan fu penderfynu peidio rhoddi hwyl iddo y noswaith hono, ac eto i fod yn ffyddlon i'w gilydd. Pan ddaeth y cyfarfod, penodwyd yr Hybarch D. Rhys Stephen i'r gadair; dechreuodd y brodyr adrodd eu hystorïau gyda mawr hwyl. Galwyd ar "Ab" i ddweyd ei lith, ond pawb mor ddystaw a'r bedd. Synodd y brawd beth oedd yn bod; ail ddywedodd ystori, dilynwyd hono drachefn gyda'r un agwedd ddiystyrllyd. Deallodd "I. ab Ioan" erbyn hyn fod yno gynghrair rhyngddynt i'w orchfygu; gan hyny daeth allan yn ei nerth mawr, ac adroddodd yr ystori ganlynol:—"Cwrddodd boneddwr unwaith â hogyn bychan ar yr heol, a gofynodd iddo, 'I b'le 'rwyt ti'n myned?' 'I'r pentref gerllaw,' oedd yr ateb. Os cyfarfyddi â'm goruchwyliwr ar y ffordd, dywed wrtho am fyned i'm ffermyard i edrych yr anifeiliaid?' Atebodd y bachgen, Gwnaf gyda phob pleser.' Siarsodd y boneddwr ef dair neu bedair gwaith trwy ddweyd, 'Os cyfarfyddi ag ef, cofia ddweyd. 'Wel, syr,' ebai y bachgen, 'beth ddywedaf wrtho os na chwrddaf ag ef?' Gyda hyn poethodd ysbryd y boneddwr, a dywedodd, 'Well, go d—m it, 'does dim eisieu dweyd dim wedyn, yr hen grwt dwl." Ar hyn torodd y gronfa fawr ac arllwysodd eu ffrydlif chwerthiniadol nes iddynt orwedd ar draws yr ystafell, a darfu i'r Parch. D. Rhys Stephen syrthio mewn pang chwerthiniadol ar ei gefn dros y gadair i'r llawr.

Yr oedd yn eilun edmygedd a serch yr holl goleg