Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

tra bu yno. Parhaodd y Parch. D. Rhys Stephen i ddal gohebiaeth ag ef tra fu byw. Yr oedd y Parch. Edward Evans, Dowlais, yn un o'i gyd-fyfyrwyr, a chaiff y llythyr canlynol o waith Mr. Evans ymddangos fel y mae o dan ei law ef ei hun mewn perthynas i'r cyfnod hwnw.

Llanwrtyd Wells,
Awst 27ain, 1874.

***** " Yr oeddwn yn bur gyfarwydd â Mr. Williams er ys hanner can' mlynedd yn ol.

"Ganwyd ef mewn fferm fechan o'r enw Trwynswch , yn nghymydogaeth Llanrwst. Daeth oddi yno i'r Cefnbychan i gadw ysgol ; yno yr adnabum ef gyntaf, ac yr oeddem yn llettya yn yr un ty. Yr oedd y pryd hwnw yn gallu cyfan- soddi pregeth mewn amser byr iawn . Cof ydyw genyf ei glywed yn dweyd bryd ciniaw un diwrnod , Mi wnes bregeth, wele di , heddyw ar y ffordd o'r Cefnbychan yma, a dyma'r testun, ' Ty Iacob, deuwch a rhodiwch yn ngoleuni yr Arglwydd.' Yr oedd anallu naturiol ynddo i fod yn siaradwr Seisneg da ; yr oedd yn deall Seisneg, ac yn gallu defnyddio llyfrau Seisneg iddo ei hun gystal ag un o'i gyd-fyfyrwyr, ond yr oedd pregethu Seisneg yn boen iddo. Felly nid oedd efe fel Sais gymmaint yn flafr y tutor, ond yr oedd ganddo olwg fawr arno fel duwinydd . Byddai weithiau yn methu a dweyd ei lesson yn dda, a'r tutor yn ei ddwrdio ; deuai i fyny i'r Library y prydiau hyny a'i lygaid yn llawn dagrau , a dywedai yn gwynfanus, ‘ Happy time to go from him .' " Pan y byddai wedi dweyd ei wers yn dda , deuai oddi- wrth y tutor at y bechgyn mor llawen a'r gôg, ac fel hyn y dywedai yn gyffredin:

'Da genyf ganu, da genyf gwrw,
Gwisgo rhibbanau , a gwasgu rhai menyw.'

" Yr oedd yr oll o'i gyd-fyfyrwyr yn ei hoffi yn fawr ; ond Dafydd Rhys Stephen a minau oeddynt ei brif ffrydiau .

"Ydwyf, yr eiddoch,
EDWARD EVANS."

Wedi gorphen ei yrfa golegawl, derbyniodd alwad i Penrhyncoch, a bu yno ar brawf am ychydig fisoedd. Yn y cyfryw adeg daeth ar ei gylch i Aberduar, a