Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/13

Gwirwyd y dudalen hon

chafodd alwad unfrydol eglwysi Coedgleision ac Aberduar, yr hon a dderbyniodd yn galonog, ac urddwyd ef tua mis Tachwedd, 1831.

Ychydig iawn o bregethwyr fu yn gweini yn yr urddiad. Nid ydym yn gwybod y rheswm am hyny. Trefn y cyfarfodydd oeddynt a ganlyn:—Y nos gyntaf, pregethodd y Parch. W. Evans, Aberystwyth. Am ddeg, yr un gwr parchus a bregethodd siars i'r gweinidog a'r eglwys, a neillduwyd y brawd trwy arddodiad dwylaw a gweddi gan y Parch Daniel Davies, Talgoed, Llandyssul. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parchn. T. Thomas a Timothy Jones, Caio. Y mae y gwyr da hyn oll wedi eu symmud oddiwrth eu gwaith at eu gwobr er ys blynyddau bellach. Fel yma y dechreuodd ein brawd yrfa ei weinidogaeth, pa un a redodd mor llwyddiannus.

Yn y flwyddyn 1841 ymunodd ein hybarch frawd ag Eleanor Hughes, Llangyforiog, mewn glân briodas. Y Parch. H. W. Jones, Caerfyrddin, fu swyddog yr undeb hwn, a byddai Mrs. Williams yn dweyd yn aml wrth Mr. Jones, mewn digrifwch, "Yn wir, Mr. Jones, rhaid i chwi ddyfod i ddadwneyd yr undeb eto, y mae yn rhy ddrwg i fyw gydag ef." Yr oedd Mrs. Williams yn chwaer i'r Parch. John Saunders Hughes, Mount Pleasant, Abertawe; gwr o ddysg a doniau helaeth iawn.

Cynyrchodd yr undeb hwn chwech o blant, sef Martha, John, Jane, Elizabeth, Dafydd, a Mary Anne. Yr oll yn fyw, yn nghyd â'r weddw alarus.

Priodol yw nodi y fan hon mai yr oll o'i berthynasau sydd yn fyw ac adnabyddus i'r teulu ydyw