Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/14

Gwirwyd y dudalen hon

un chwaer, yr hon sydd yn byw yn y Ddolwen, plwyf Llangarnedd, ac yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yn nghyd â'r Parch. John Evans, gweinidog y Wesleyaid yn L'erpwl.

Y lle cyntaf yr aeth Mr. Williams i lettya ydoedd Under Grove, cartrefle Mr. Saunders (brawd yr Hybarch D. Saunders, Merthyr), ac yno y bu am chwech mlynedd a hanner, y gweddill a dreuliodd cyn priodi yn Sarnginyn. Gellir dweyd fod ein hoffus frawd yn ddyn hynod iach a chryf ei gyfansoddiad. Nid oedd un amser yn achwyn hyd ei ddyddiau olaf, gyda'r eithriad o'r iselder meddwl a'i tarawodd pan oedd yn Under Grove; methodd bregethu am bump neu chwech mis yr adeg hono. Yr oedd yn meddu ei synwyrau a'i amgyffrediad, ac yn bwyta yn lled dda; ond nid oedd bosibl ei gael o'r gwely. Yr oedd Mr. Williams yn hollol hysbys o natur ei glefyd. Un tro penderfynodd ymdrechu ei gael i lawr.

Wrth fyned allan un boreu, fel arferol, i edrych y tir, dywedodd wrth Mrs. Saunders am ei alw i lawr erbyn y boreu-fwyd. Gwnaeth hithau gydag egni anarferol, ond ni thyciodd dim. Wedi i wr y ty ddychwelyd, gofynodd a oedd y llettywr wedi codi. Atebwyd, nad oedd. Ar hyn i fyny ag ef i'r ystafell wely, a dechreuodd syllu ar ddarlun yr hwn oedd yn cynnwys "Dienyddiad Dick Turpin." Symmudodd at un arall, ac arosodd yno am enyd, yr hwn oedd yn ddarlun o nifer o ffyrdd ysbeilwyr yn cael eu dienyddio. Yr oedd yno ddarlun arall yn dwyn yr un golygfeydd ofnadwy! Wedi aros ychydig