Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

gyda hwnw, rhedodd y boneddwr allan yn lledradaidd, gan lefain—"Williams, dewch i lawr o'r ystafell yna; nid oes neb heb ei grogi ond eich hunan." Ar hyn, heb oedi eiliad, rhedodd i lawr y grisiau a'i ddillad dan ei gesail.

Bu y tro hynod yna yn droad adnewyddol i'w feddwl; ac yn fuan ar ol hyny, trwy drugaredd y Duw mawr, daeth i lanw ei gylch arferol. Wedi pregethu ychydig Sabbathau yn Aberduar, cymhellwyd ef gan ei frodyr yn y weinidogaeth i fyned i Gymmanfa Llandilo-fawr; a phregethodd yno, am saith yn y boreu, ar "Gariad Duw wedi ei ddadblygu yn y Cyfryngwr bendigedig," gyda dylanwad anarferol, ac nid gormod ydyw dweyd―er mor nerthol oedd y cewri yn pregethu yn y Gymmanfa hono, megys Francis Hiley, H. W. Jones, Spencer, Llanelli, &c., &c.,—mai efe oedd ar y blaen.

Ar ol hyny llonyddodd ei feddwl, ac ni phrofodd ond ychydig ymosodiadau ysgafn oddiwrth y gelyn annaturiol a phoenus hwnw.

Tua dwy flynedd cyn ei farwolaeth tarawyd ef gan enynfa yn mys ei droed, ac yn fuan aeth i'r llall, ac i'r droed arall, gyda yr un loesau chwerwon; wedi hyny cododd i fysedd ei ddwylaw. Mewn canlyniad i'r ingoedd ofnadwy, collodd holl ewinedd ei draed a'i ddwylaw. Dyoddefodd boenau annirnadwy, a hyny gydag amynedd duwiol a ffydd Cristion. Ymdrechodd am flwyddyn i gadw ei gylch yn y cyflwr truenus hwnw. Teg yw crybwyll i'r eglwys fod yn hynod garedig wrtho yn ei amgylchiadau cyfyng. Prynasant gerbyd drudfawr iddo at ei wasanaeth, a