Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/16

Gwirwyd y dudalen hon

roddasant bymtheg punt ar hugain o dysteb i gynal ei feddwl i fyny trwy ysbaid ei gystudd. Talodd Aberduar a Chaersalem ei gyflog yn llawn. Cydymdeimlodd brodyr y weinidogaeth ag ef i fesur helaeth yn ei amgylchiadau; eithr, wedi yr holl ffyddlondeb a'r ymdrechiadau ar ei ran, terfynodd ei gystudd hirfaith a phoenus yn angeu y dydd diweddaf, o'r flwyddyn 1871, er galar a cholled i'r teulu, yr eglwys, y gymydogaeth, ac hefyd i gylch y Gymmanfa; eto hyderwn er cysur a llawenydd tragwyddol iddo ef. Tafled y Duw trugarog ei aden dros y teulu amddifaid sydd yn aros. Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus; gosodwn yr ysgrif yn y fan hon fel yr ymddangosodd yn Seren Cymru (Ionawr 12ed, 1872,) gan ei hoffus gyfaill y Parch. W. Hughes, Glanymôr, Llanelli:—

CLADDEDIGAETH Y PARCH. JOHN WILLIAMS,
ABERDUAR.

"Y mae y cewri yn Sion yn syrthio, y gwylwyr yn cael eu colli oddiar y twr, y gwyr mawr yn Israel yn cwympo i'r bedd. Mae Cymmanfa Caerfyrddin a Cheredigion wedi cael colled trwy symmudiad enwogion o'n plith. Y mae lle y brawd anwyl Williams yn wag yn Aberystwyth; Nazareth wedi colli Theophilus Thomas; ac yn ddiweddaf oll y brawd hoff Williams wedi ei golli o Aberduar. Y pregethwr galluog a hyawdl, a'r cyfaill ffyddlon, wedi ei golli a'i osod yn nhywyllwch y bedd ar ol hir gystudd o'r natur fwyaf poenus; wedi dyoddef yr arteithiau mwyaf dychrynllyd, efe a hunodd yn yr Iesu prydnawn y dydd diweddaf o'r flwyddyn 1871, yn 71 mlwydd oed. Gadawodd ei ysbryd y daearol dy ar y Sabbath a'r dydd olaf o'r flwyddyn, a chymerwyd ef mewn trugaredd gan ei Dduw i dreulio y Sabbath hir, yn ngwydd yr Oen, tu fewn i'r llén yn ngwlad y goleuni pur.

"Nid ydys yn myned i ysgrifenu cofiant i'r brawd hoff sydd wedi ein gadael, gobeithio y gwneir hyny gan rhyw un yn y dyfodol; ond yn unig groniclo hanes ei gladdedigaeth, yr hyn a gymerodd le dydd Gwener, Ionawr 5ed, 1872. Deg o'r gloch boreu y dydd hwnw oedd yr awr appwyntiedig,