Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/17

Gwirwyd y dudalen hon

pan y gwelid y bobl yn d'od o bob cyfeiriad gan dynu tua'r ty lle y gorweddai yr hyn oedd farwol o Williams, Aberduar. Daeth llu o weinidogion o wahanol enwadau, o bell ac agos, i ddangos eu parch i'r ymadawedig; yn eu plith gwelsom y rhai canlynol:-Y Parchn. H. W. Jones, cyfaill mynwesol i Mr. Williams dros ddeugain mlynedd; W. Hughes, Llanelli; J. Lloyd, Felinwen; D. Jenkins, Jezreel; D. Morris, Porthyrhyd; E. Lewis, Llandyssul; D. Williams, Llwyndafydd; L. Roderick, Ceinewydd; J. D. Evans, Caio; D. Williams (A.), Rhydybont; Mr. Evans, Maesymeillion, a Mr. Davies, Alltypacca, gweinidogion y Presbyteriaid, a dichon eraill nad oedd yr ysgrifenydd yn gwybod eu henwau. Yr oedd yr angladd yn un o'r rhai mwyaf a welwyd yn y gymydogaeth, oblegid yr oedd y brawd Williams yn hynod o barchus gan bawb yn mhell ac agos. Yn y ty, cyn cychwyn, darllenodd a gweddiodd y brawd John Lloyd, a chanwyd hymn. Allan, cyn codi y corph, dywedwyd yn bwrpasol i'r amgylchiad a gweddiwyd gan y brawd D. Jenkins.

"Wedi hyny aethpwyd yn dorf fawr a threfnus tua hen gapel Aberduar, tua milldir oddiwrth y ty. Blaenorid gan y gweinidogion yn ddau a dau,' a phob un yn gwisgo arwyddion galar yn y ffurf o hat-bands wedi eu rhoddi gan yr eglwysi, y rhai yn ddiau ni welant yn ormod i dalu yr holl dreulion cysylltiedig â chladdu yn barchus un a'u gwasanaethodd am ddeugain mlynedd.

"Wedi cyrhaedd yr addoldy, darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. D. Williams, Rhydybont; a phregethodd y brodyr W. Hughes, Llanelli, a H. W. Jones, Caerfyrddin, oddiwrth Thes. iv. 13, 14; a Phil. i. 6. Yr olaf yn destun dewisiedig y brawd Williams amser cyn ei farw. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd D. Williams, Llwyndafydd; canwyd yn ystod y cyfarfod ddwy neu dair gwaith, a rhoddwyd yr emynau allan gan y brawd D. Morris.

"Yna awd allan i roddi yr hyn oedd farwol o Williams, Aberduar, yn ei dy newydd. Yr oedd y bedd wedi ei wneyd yn hardd â phriddfeini, ac fel y dywedai y brawd Evans, Caio, Y mae yn edrych yn ddymunol o fedd.' Ar lan y bedd siaradwyd yn doddedig gan y brodyr Lewis, a Evans, Caio, a dybenwyd trwy weddi gan y brawd L. Roderick. Fel hyn gadawsom y bardd a'r pregethwr yn nhir tywyllwch a chysgod angeu, gan deimlo y gwneir y corph gwael a roddwyd i lawr, yn y dydd diweddaf, yr un ffurf a'i gorph gogoneddus ef.

"Dangosodd yr ardalwyr bob serchawgrwydd i'r dyeithriaid a ddaethant yn nghyd, a phawb a amlygent y parch mwyaf i'r brawd oedd wedi ein gadael. Ein gweddi yw am i'r Arglwydd fod yn dyner iawn o'r weddw a'r plant, a'u cadw o dan gysgod ei adenydd ; ac hefyd i ddanfon gwas teilwng i