Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/18

Gwirwyd y dudalen hon

lafurio yn y maes pwysig lle llafuriodd ein brawd gyda llwyddiant am dymhor maith. Yr wyf yn gweled nad oes eisieu y gair teilwng yn y fan yna, oblegid os danfona yr Arglwydd un-ni ddanfona ond y teilwng a'r cymhwys. Bydded felly.

Llanelli.

WILLIAM HUGHES."

Y mae un peth yn hynod yn nhreigliadau bywyd ein hanwyl frawd, h.y., fod y prif gyfnewidiadau wedi cymeryd lle ar ben deg mlynedd :—

Yn 1801 y ganwyd ef.
Yn 1831 yr ordeiniwyd ef.
Yn 1841 y priododd.
Yn 1871 y bu farw.

Er mor gysurus a llewyrchus y bu gyrfa bywyd ein hoffus frawd mewn eglwysi anrhydeddus a thangnefeddus, ac yn byw yn un o'r dyffrynoedd mwyaf prydferth yn Nghymru, mewn ffermdy tlws o'r enw Gwrdymawr, ac o ran amgylchiadau uwchlaw angen a thylodi drwy ei oes, ac ys dywedai ei hunan am y dyffryn :

"Mae man cyfleus i graffus wr
Ar uchel dwr y Dderi,
Os na fydd niwl, i weled glyn,
Neu ddyffryn tyfawl Teifi ;
Ar bob man yn y parthau hyn,
Ei gyrau sy'n rhagori.

"Mae Dyffryn Teifi 'n faith ei hyd,
Mae ynddo brydferth goedydd,
A'r olwg arnynt sydd yn gu,
Yn neutu glwysion nentydd;
Ar gangau 'r gwydd lle cana 'r gog,
Uwchi serchog ddeiliog ddolydd.

"Wrth rodio 'r coedydd hirddydd haf,
Yn araf, yn mhlith irwydd,