"Cerbydres yma 'n gyflym red
I waered ac i fyny,
Yn ol a blaen trwy 'r Dyffryn teg;
Man agos hawdd mynegu—
Yw'r man yn awr, oedd gynt yn mhell;
Mae'r wlad yn well o'i meddu.
"Na ddoed i'r Dyffryn frad na briw,
Mawr lwydd i'w ardalyddion;
Yn wlad o barch mewn golud byd
I gyd bo 'i lad drigolion;
Yn dal i garu crefydd Crist,
Heb nag, fel gwir Grist'nogion.
"Yn niwedd oes, trwy nawdd Ion hael,
Dymunwyf gael fy nghladdu,
Tan Ywen werdd lle sia'r gwynt,
Deheuwynt, ar lan Teifi;
Lle mae fy hen gyfeillion gwar,
Yn llwch y dd'ar yn llechu."
Eto gwelwn yn ei hanes fod geiriau y llyfr dwyfol yn wirionedd, "Dyn a aned o 'Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau a llawn o helbul," ac mai ofer yw rhoddi pwys a hyder ar ddedwyddwch y byd presenol. Yr ydym yn gallu dweyd, trwy brofiad a gwybodaeth bersonol, nas gwelsom drigfa dedwyddwch yn fwy cyflawn i'n golwg ni na chartrefle ein hanwyl frawd. Eithr heddyw cymylau a thywyllwch sydd yn crogi uwchben y fan.
RHAN II.
FEL DUWINYDD, BARDD, A LLENOR.
Wedi darllen y Bibl—Barn a chrebwyll—Y prif lyfrau a ddarllenodd— Duwinyddiaeth yn unig destun ei fyfyrdod a sylwedd ei bregethau—Pregethwr poblogaidd B'le 'roedd cuddfa ei gryfder? nid yn ei lais, na chyflymder ei ddywediad, na phrydferthwch