ei iaith, na thlysni ei frawddegau-Desgrifiad o hono fel pregethwr-Ei ymddangosiad yn yr areithfa—Arddull ei bregethau—Ei draddodiad—Ei ffigyrau—Ei athrylith—Ei dduwiol—frydedd wrth draddodi—Ei gyfansoddiadau barddonol—Yn adnabyddus â theithi barddoniaeth—Yn meddu gradd helaeth o ddarfelydd ac awen—Ei gynyrchion llenyddol.
Yr oedd y Bibl yn llyfr cyfarwydd gan ein brawd ; yr oedd hyn yn amlwg yn ei rwyddineb yn gwneyd cyfeiriadau at wahanol ranau o'r llyfr sanctaidd. Y gwir yw, yr oedd cleddyf yr Ysbryd yn arf wrth ei law. Nid yn aml y clywid pregethwyr yn gallu dyfynu cynnifer o adnodau wrth bregethu a gwrthddrych ein cofiant, a byddai bob amser yn geirio yr adnodau yn ol y geiriad Ysgrythyrol. Peth annaturiol a gwrthun i'r graddau eithaf yw clywed dynion cyhoeddus yn geirio yr adnodau yn eu hiaith eu hunain, a chyflwr mwy truenus fyth yw fod pregethwyr yn anghyfarwydd yn y llyfr hwnw a broffesant eu bod yn ei ddysgu i eraill.
Yr oedd Mr. Williams yn meddu barn a chrebwyll. Yr oedd yn deall yr hyn a ddarllenai; medrai gloddio i ddyfnderoedd y gloddfa ysbrydol. Y gwir yw, yr oedd ganddo agoriadau teyrnas Dduw. Nid yn unig yr oedd yn deall, ond medrai bregethu ac ymresymu ger bron ei gynulleidfa fawrion bethau Duw yn eglurhad yr Ysbryd a chyda nerth mawr. Yr oedd
ei bregethau fel maelfa wedi ei llwytho â nwyddau trugaredd. Buom yn siarad â'i wrandawyr cartrefol lawer gwaith-dynion o farn a phwyll—a byddent oll yn dwyn tystiolaeth i'r un gwirionedd.