3ydd.—Ei draddodiad.—Diammheu fod Mr. Williams yn teimlo ei gryfder wrth bregethu, a gwnai i eraill deimlo fod yno feistr ar y gynulleidfa uwch eu penau. Yr oedd ei lais yn gryf a nerthol, er nad oedd yn soniarus; clywid ef o draw ar y cae fel pe byddid yn ei ymyl. Nis gellir dweyd ei fod yn orator ac yn areithydd hyawdl fel Jones o Ferthyr, neu Jones, Caerfyrddin; eto yr oedd yn ddywedwr hapus, ac yn gallu sicrhau pob llygad wrth ei wefus; pe buasai wedi talu sylw dyladwy i areithyddiaeth, diau y gallasai ragori llawer yn yr ystyr hwn.
4ydd.—Ei ffigyrau.—Yn hyn diammheu yr oedd prif nerth ei boblogrwydd; y rhan fynychaf byddent yn tueddu at yr ysgafn a'r digrifol, eto yn naturiol. Rhoddwn ychydig engreifftiau pan yn pregethu ar y testun hwnw yn Efengyl Ioan, “Yr wyf yn myned at fy Nhad, ymgysurwch," &c. "Dywediad hynod iawn," meddai, "iddynt ymgysuro pan oedd eu cyfaill goreu yn myned, ac na fuasent yn gweled ei wyneb ef mwy. Y gwaith oedd ar ben, bobl nid oedd eisieu iddo ef ddyfod yn ol. Mae dynion yn gorfod dyfod yn ol yn aml am nad ydynt wedi gorphen eu gwaith yn iawn. Dyna Dafydd Edward, y saer, wedi gwneyd contract i adeiladu ty; gorphenodd ef, a rhoddodd yr agoriad i fyny; ond yn mhen ychydig ddyddiau, dyna genad ar ol Dafydd yn ei gyrchu yn ol. 'Roedd y drws yn pallu cau; nid oedd y gwaith wedi ei orphen yn iawn, am hyny 'roedd angen gweled ei wyneb ef drachefn; ond yr Iesu anwyl pob peth gydag ef wedi ei orphen;