"Yr oedd gan dad fachgen drwg iawn; ac er mwyn dylanwadu arno i weled ei bechodau, gosododd y tad astell ar y wal yn y ty, a phob trosedd a gyflawnai pwyai hoel iddi. Yn mhen tymhor llanwodd yn hollol; wedi hyny meddiannwyd y bachgen gan bryder neillduol. Gofynodd y tad y rheswm o hyny? Atebodd yntau, mai hoelion yr astell, trwy ddangos ei droseddau, oedd yn tori ei galon. 'Dere di,' ebai y tad, y mae lle i wella; fe dynaf hoel ymaith am bob gweithred dda a wnei.' Felly y bu nes iddynt gael eu tynu oll, eto pryderus oedd y bachgen o hyd. 'Ymgysura bellach,' ebai y tad. 'Na, 'nhad,' meddai y llanc, ' y mae ol yr hoelion yn aros o hyd.' 'Ond fe gliria Gwaed y Groes,' meddai Mr. Williams, 'ol yr hoelion.'"
Y mae yn briodol i ni nodi yn y fan hon nid yn unig ei fod yn hapus yn ei ffigyrau, ond yn ffraethbert wrth bregethu; yr oedd hyny yn chwanegu llawer at ei boblogrwydd. Yr oedd yn pregethu mewn cwrdd mawr yn Nghwmaman un tro, ac yn dwyn i sylw, yn mysg pethau eraill, y gwelliannau rhyfeddol oedd yn cymeryd lle yn y byd celfyddydol. 'Ond," meddai, gyda chroch-floedd nerthol, “yr wyf yn gweled wedi dyfod i'r lle hwn fod un peth yn eithriad-Y mae bonneti y menywod yma yn myned yn ol." Yr oedd y ffasiwn y pryd hwnw fod y pen orchudd i fod yn hollol ar y wegil.
Wrth bregethu ar y geiriau hyny, "Crist ein bywyd ni," &c., adroddai hanesyn am ddau offeiriad oedd yn ymrafaelio am hawl i fywioliaeth eglwys