blwyfol mewn rhan o Sir Gaerfyrddin. Aeth y ddau yn eu gwisgoedd gwynion i gwrdd ag angladd oedd yn dyfod i'r fynwent. Gwaeddai un yn y fan hyn, Myfi yw yr adgyfodiad a'r bywyd;" a'r llall yn ei ymyl yn dolefain, "Nage, syr, myfi ydyw ef." "Ond yr wyf finau yn dweyd," ebai Mr. Williams, "nad yr un o honynt yw yr adgyfodiad a'r bywyd, eithr Iesu Grist ydyw Ef."
Pan yn pregethu ar y geiriau hyny o eiddo ein Harglwydd Iesu, "Beth yw hyny i ti, canlyn di fi;" ei rhagymadrodd ydoedd, "Pwnc y testun ydyw—I bob un feindio busnes ei hunan."
Clywsom ef yn pregethu yn ddoniol anarferol ar wirionedd yr Efengyl. Sylwai fod tri math o wirionedd. Gwirionedd Athronyddol, Hanesyddol, a gwirionedd yr Efengyl. Gwirionedd athronyddol yw yr hyn a ganlyn. Cof genyf fod fy mam yn dweyd wrthyf, John, os rhoddi ormod o bwysau ar y cart bach, mae yn sicr o dori.' 'Os ei i'r afon, yr wyt yn sicr o foddi.' 'Os rhoddi dy fys yn y tân, mae yn sicr o losgi," &c.'
Y mae genym un sylw i'w wneyd am nodwedd Mr. Williams fel pregethwr, y byddai yn gam ag ef i'w adael allan. Er ei fod yn naturiol dueddu at y digrifol fel rheol, eto yr oedd yn amlwg fod pregethu yn waith mawr a phwysig yn ei olwg. Gwelsom ef lawer gwaith yn wylo, ac yn gorfod ymattal dan deimladau wrth gymhell pechaduriaid at Fab Duw. Yr oedd y gwaith yn pwyso ar ei galon, a chredwn,