Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiar brofiad lled helaeth o'i gyfeillach, fod y gwaith yn waith ei enaid.

FEL BARDD A LLENOR.

Nid ydym yn honi y gallwn roddi darluniad a beirniadaeth gyfiawn ar wrthddrych ein cofiant o dan y gangen hon; beth bynag, gwnawn ymdrech yn ol ein gallu. Y mae tri pheth yn amlwg yn ei berthynas ag ef fel bardd.

1af—Iddo gyfansoddi nifer o bob math o ganeuon. Y mae Lloffyn y Prydydd yn cynnwys 261 heblaw ei gân orchestol ar "Ddyffryn tyfawl Teifi," ac hefyd ei gyfansoddiadau o bryd i'w gilydd a anfonodd i'r cyfnodolion misol ac wythnosol.

2il.—Yr oedd yn adnabyddus â theithi barddoniaeth, o herwydd cawn yn ei gynyrchion barddonol Awdlau, Cywyddau, Pryddestau, Englynion, Emynau, Marwnadau, a Chaneuon o bob math.

3ydd. Yr oedd yn meddu gradd helaeth o ddarfelydd ac awen. Clywsom rai yn dweyd mai "Bardd Celfyddyd" ydoedd, ond credwn fod y dywediad yn gyfeiliornus; y mae yr elfen fyw sydd yn rhedeg drwy ei holl gyfansoddiadau yn gwrthbrofi yr haeriad. Nid ydym am resu ein hoffus frawd yn y gradd uchaf o ddarfelyddion, megys Daniel Ddu, Goronwy Owain, Dewi Wyn, &c. Bardd canolradd ydoedd "I. ab Ioan." Credwn pe y buasai yn parhau i ymroddi, y buasai wedi cyrhaedd graddau llawer uwch. Am gyfnod bach yn moreuddydd bywyd y cafodd yr awen hamdden i flaguro ynddo; canys casglodd ei